Rydych wedi derbyn llythyr A4 sef ffurflen Gyfathrebu B y Canfasiad.

Darllenwch eich ffurflen a sicrhau bod y manylion yn gywir.

Os gallwch weld enwau a chenhedloedd pobl yn eich cyfeiriad ar y ffurflen a'ch bod am ychwanegu etholwr neu ddileu rhywun nad yw bellach yn byw yn yr eiddo, bydd angen i chi wneud un o'r canlynol:

  • ewch i www.registersecurely.com/Ceredigion rhoi eich cod diogelwch 1 a 2 unigryw sydd ar y llythyr A4 a gwneud unrhyw newidiadau; neu
  • ffoniwch Gwasanaethau Etholiadol ar 01545 572032

Mae angen i chi ymateb i’ch ffurflen CCB erbyn 8 Medi 2020. Os na fyddwch yn ymateb erbyn 8 Medi 2020 anfonir ffurflen A3 arall, sef Ffurflen Gyfathrebu’r Canfasiad, atoch yn gofyn am y wybodaeth eto.

Ffurflen Gyfathrebu B y Canfasiad