Rydych wedi derbyn llythyr A4 sef ffurflen Gyfathrebu A y Canfasiad.

Darllenwch y ffurflen a sicrhau bod y manylion yn gywir.

Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’r ffurflen, er enghraifft, ychwanegu neu ddileu etholwr bydd angen i chi wneud y canlynol:

Nodwch NA fyddwch yn derbyn amlen i ymateb. Bydd angen i chi ymateb yn electronig. Os cewch unrhyw drafferthion i ddefnyddio’r gwasanaeth, ffoniwch 01545 572032 a siarad ag aelod o Dîm y Gofrestr Etholiadol.

Bydd unigolyn sy’n methu â rhoi gwybod i ni am newid neu sy’n rhoi gwybodaeth anwir ar ffurflenni’r Canfasiad yn cyflawni trosedd.

Cofiwch, o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, gellir nawr ychwanegu plant 14-16 oed i’r Gofrestr yn barod iddynt droi’n 16 oed. Byddant dim ond yn gallu pleidleisio yn rhan o Etholiadau’r Senedd y disgwylir iddynt gael eu cynnal ym mis Mai 2021.

Ffurflen Gyfathrebu A y Canfasiad