Os ydych chi wedi derbyn llythyr neu e-bost gennym ni, mae’n bryd i’ch eiddo bwyd fod yn destun archwiliad hylendid bwyd arferol gan swyddogion yr Adran hon.  Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi arweiniad ar gyfer eiddo penodol nad yw’r risg yn uchel ynddynt, sy’n galluogi Awdurdodau i ddosbarthu holiaduron i weithredwyr busnesau bwyd er mwyn asesu a oes angen trefnu ymweliad neu beidio.

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn gallu cwbwlhau yr holiadur hon, bydd rhaid defnyddio eich rhif Adnabyddaeth Unigriw a ddarperir ar y llythyr / ebost anfonwyd atoch chi.

Ffurflen Hunanasesu Hylendid Bwyd Ar Gyfer Llefydd  Risg Isel