Mae'r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn helpu i gael pobl yn ôl i waith.
Gall ein Tîm gynorthwyo'ch busnes trwy:
- Darparu gwasanaeth recriwtio am ddim i gyflogwyr a darpar weithwyr
- Helpu i wneud recriwtio yn haws
- Darparu ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi gwag
- Cynorthwyo gyda threialon gwaith a diwrnodau rhagflas
- Paratoi darpar ymgeiswyr gyda hyfforddiant addas
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy ddanfon e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 574193.