Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Ail Wedd ARFOR

Ar 10 Hydref 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.

Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

Mae ARFOR - Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin - nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Amcanion Strategol Rhaglen ARFOR

  1. Creu cyfleoedd i pobl a teuluoedd ifanc (<35 oed) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid - gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau
  2. Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg - drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd
  3. Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio - drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol
  4. Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg - drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth

Cymunedau Mentrus – Cronfa Cefnogaeth Rhaglen ARFOR

Yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a cymunedol sydd yn anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR).

Mae’r gronfa yn cael ei weinyddu gan y Cyngor Sir Ceredigion.

Beth sydd ar gael:

  • Gyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf
  • Cefnogaeth ariannol i dalu am hyd at 70% o gostau'r prosiect
  • Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael

Mae’r Gronfa am gefnogi prosiectau sy’n:

  • Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol ag adnoddau, tirwedd a’r amgylchedd lleol
  • Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (e.e. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol)
  • Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (e.e. trwy feysydd megis cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyfenwi’r sectorau sylfaenol).

Mae na ofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith sy’n cael ei gynnal gan Comisiynydd y Iaith fel rhan o’r proses ag ymrwymo i weithio gyda’r Comisiynydd y Iaith i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024.

Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd.
  1. Canllawiau Cymunedau Mentrus
  2. Beth yw’r Cynnig Cymraeg?
  3. Cytundeb Egwyddorion
  4. Ffurflen Buddiolwyr
  5. Holiadur Hunan Asesu - Cynllun Datblygu'r Gymraeg
  6. Rhaglen ARFOR
  7. Cwestiynau a Atebion
  8. Meini Prawf a Graddio
  9. Crynodeb Cymunedau Mentrus Arfor 2 - Ceisiadau Llwyddiannus

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r tîm ar ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.