Tȋm Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth.
Croeso.
Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn darparu un cyfeirbwynt ar gyfer popeth sy’n gysylltiedig â chyllid Ewropeaidd sy’n effeithio ar Ranbarth y De-ddwyrain a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac sy’n berthnasol iddynt. Mae hynny’n cynnwys gwybodaeth am brosiectau, y newyddion diweddaraf, cefndir y cyllid, dolenni at wybodaeth fanwl, a’r cyd-destun polisi yr ydym i gyd yn gweithio ynddo.
Ar hyn o bryd, mae’r wefan yn dal i gael ei hadeiladu; bydd rhai mannau gwag, ac ychwanegir gwybodaeth i fannau eraill dros amser. Cofiwch gadw golwg am yr wybodaeth ddiweddaraf!
Rydym yn gobeithio y bydd y wefan newydd yn ddefnyddiol i sefydliadau sy’n gweithio ym mhob rhan o’r rhanbarth, a byddem yn falch o gael eich sylwadau amdani, yn enwedig yn ystod y cyfnod datblygu hwn. Defnyddiwch y ffurflen gyswllt i fynegi eich barn!
Y Timau Ymgysylltu Rhanbarthol
Mae pedwar Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) wedi eu sefydlu ledled Cymru i helpu i sicrhau bod cynigion am gyllid Ewropeaidd yn bodloni cyfleoedd a buddsoddiadau’r dyfodol ar lefelau rhanbarthol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.
Mae’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn gweithio ar draws pob sector i sicrhau cyfranogiad effeithiol a llwyddiant ar gyfer buddsoddiadau a ariennir gan yr UE – gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol/a gynlluniwyd yng nghyd-destun gweithgareddau a chyfleodd thematig sydd wedi eu sefydlu ac sy’n datblygu. Rydym yn cyflawni hyn drwy’r camau gweithredu canlynol:
Amcanion y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol |
Camau Gweithredu’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol |
---|---|
Cynnal trosolwg strategol o flaenoriaethau/gweithgareddau rhanbarthol |
|
Prawfesur polisïau o safbwynt rhanbarthol a blaenoriaethu gweithrediadau |
|
Sicrhau bod blaenoriaethau a buddiannau rhanbarthol yn rhan o raglenni’r UE |
|
Nodi integreiddiad/dyblygiad/bylchau posibl o ran gweithgarwch |
|
Codi proffil ac ymwybyddiaeth am gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar lefel rhanbarthol |
Hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau prosiectau trwy:
|
Cefnogi agweddau rhanbarthol ar Fonitro a Gwerthuso, a themâu trawsbynciol |
|
Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd rhanbarthol |
|
Manylion Cyswllt
Os ydych chi’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio ar draws mwy nag un rhanbarth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol trwy ddefnyddio’r manylion isod:
Gogledd Cymru
Gwefan: northwaleseab.co.uk
E-bost: Barbara.burchell@conwy.gov.uk
Canolbarth Cymru
Gwefan: www.growingmid.wales
E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk
De-orllewin Cymru
E-bost: Amy.Ryall@bridgend.gov.uk