Er mwyn gweld cyfleoedd cyfredol am gontract ac ymateb i’r cyfleoedd a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion, bydd angen i chi gofrestru eich sefydliad ar GwerthwchiGymru ac eDendroCymru.

Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth ar-lein am ddim i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth am gontractau a chyfleoedd gyda’r cyngor a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio GwerthwchiGymru i wneud y canlynol:

  • chwilio am gyfleoedd am gontract
  • derbyn hysbysiadau ynglŷn â chyfleoedd newydd a cheisiadau am ddyfynbrisiau
  • cysylltu â phyrth caffael eraill i gynnal eich tendrau (gweler eDendroCymru isod)
  • gweld Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) a chyfleoedd yn y dyfodol
  • dod o hyd i fanylion cyswllt a phroffiliau cyrff cyhoeddus eraill

Yn ystod y broses gofrestru, bydd gofyn i chi ddewis categorïau. Mae’n hanfodol eich bod yn dewis y categorïau sy’n berthnasol i’r nwyddau, y gwaith neu’r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu er mwyn derbyn hysbysiadau perthnasol.

Defnyddir eDendroCymru gan y cyngor i gyflwyno pob tendr electronig. System dendro electronig yw hon sy’n caniatáu i gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru ar y wefan lawrlwytho dogfennau tendro a chyflwyno ymatebion i dendrau. Bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru os ydych yn dymuno cael mynediad at dendr sydd wedi’i hysbysebu a’i lawrlwytho.

Os oes angen unrhyw help arnoch i gofrestru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wefan, cysylltwch â Desg Gymorth Bravo Solutions: 0800 368 4850 neu anfonwch e-bost at help@bravosolution.co.uk. Fel arall, cysylltwch â Busnes Cymru am gymorth a chefnogaeth am ddim (a ariennir gan Lywodraeth Cymru).

Sylwch na chodir tâl am gofrestru ar y naill wefan na’r llall.