Ystyrir bod plentyn yn colli addysg yng Ngheredigion os ydynt yn blentyn oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt ar gofrestr ysgol, cofrestr awdurdod lleol (ALl) neu’n cael eu haddysgu gartref gan eu rhieni (Addysg yn y Cartref).

Mae Adran 436A Deddf Addysg 1999, fel y’i diwygiwyd gan adran 4 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol, sy’n mynnu eu bod yn pennu (i’r graddau ag y bo modd gwneud hynny) ‘manylion plant yn eu hardal nad ydynt yn cael addysg addas’.

Ceir sawl rheswm pam bod plant a phobl ifanc yn ‘syrthio allan’ o’r system addysg a’u bod mewn perygl o ‘fynd ar goll’. Mae’r rhain yn amrywio o fethu cychwyn mewn ysgol newydd neu ddarpariaeth addysg briodol, i beidio ail-gofrestru mewn ysgol newydd pan fyddant yn symud i’r sir.

Os bydd gennych chi unrhyw wybodaeth am blentyn y gallai fod ar goll o’r ysgol a heb fod yn cael addysg addas, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar 01545 570881 neu gallwch anfon e-bost atom, at cme@ceredigion.gov.uk.