Mae rheolau a rheoliadau llym mewn grym ynghylch cyflogaeth plant, er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael eu cofrestru’n gywir, nad ydynt yn destun camfanteisio neu’n cyflawni gwaith a allai niweidio eu hiechyd, eu rhoi mewn perygl corfforol neu gael effaith niweidiol ar eu haddysg.

Y dyddiad swyddogol er mwyn gadael yr ysgol yw’r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fo’r disgybl yn 16 oed. Cyn y dyddiad hwn, rhaid i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed gael trwydded waith os ydynt yn dymuno gwneud gwaith rhan-amser. Rhaid llenwi ffurflen gais ac mae’n rhaid i hon gan ei llofnodi gan y rhieni a’r cyflogwr, ac mae’n rhaid ei chyflwyno i’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg yn y Gwasanaethau Ysgolion i’w chymeradwyo. Mae pob cyflogaeth heb ei gofrestru, lle nad oes Trwydded Waith mewn grym, yn anghyfreithlon.

Cyfrifoldebau Cyflogwyr

Rhaid i bob plentyn oedran ysgol y mae ganddynt swydd rhan-amser ac y maent yn gweithio i gyflogwr am dâl neu’n gwneud gwaith gwirfoddol, gofrestru gyda’r Awdurdod Lleol ac mae’n rhaid bod ganddynt drwydded waith. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi’r plentyn.

Rhaid i gyflogwyr ystyried y rheolau a’r rheoliadau sy’n rheoli sawl awr yr wythnos y bydd y plentyn yn gallu gweithio, pa fath o waith y gall y plentyn ei wneud, a’r math o safle lle y bydd y plentyn yn gweithio (gweler isod).

Cyfrifoldeb y cyflogwr yw cynnal Asesiad Risg penodol ar gyfer Person Ifanc, sy’n ystyried unrhyw beryglon sy’n ymwneud â chyflogaeth y plentyn a hysbysu’r rhiant/gwarcheidwad o ganlyniad yr asesiad. Yn ogystal, rhaid i’r cyflogwr sicrhau bod dillad ac esgidiau cywir yn cael eu gwisgo a bod y plentyn yn cael hyfforddiant, canllawiau a goruchwyliaeth gywir, ac mae’n rhaid bod ganddynt sicrwydd yswiriant priodol.

Cyn pen 7 diwrnod o’r adeg pan fydd y plentyn yn dechrau gweithio, rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogaeth Plentyn, y mae’n rhaid iddi gael ei llofnodi gan y cyflogwr a rhiant/gwarcheidwad y plentyn. Mae’r cais hwn yn nodi manylion y plentyn, yr oriau gwaith, y lleoliad gwaith a’r math o waith i’w gyflawni (gweler y ffurflen gais isod).

Dylai cyflogwyr nodi’r canlynol:

  • Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn dan 13 oed
  • Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn heb sicrhau Trwydded Cyflogi Plentyn yn gyntaf
  • Dim ond er mwyn cyflawni mathau penodol o waith y gellir cyflogi plant (nodir isod)
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio ar unrhyw adeg rhwng 7pm a 7am (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7am ac 11am
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio dros 12 awr yn ystod unrhyw wythnos lle y mae gofyn iddynt fynychu’r ysgol
  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod y gwyliau ysgol, a gallant weithio hyd at uchafswm o 25 awr yr wythnos yn ystod y gwyliau ysgol
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod y gwyliau ysgol, a gallant weithio hyd at uchafswm o 35 awr yr wythnos yn ystod y gwyliau ysgol
  • Rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael egwyl o awr o leiaf
  • Rhaid i blentyn gael o leiaf bythefnos o wyliau olynol mewn blwyddyn

Dim ond rhai o’r rheolau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â chyflogi plant yw’r uchod, ac rydych chi, fel cyflogwr, yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn llwyr ymwybodol o’r Ddeddfwriaeth Cyflogi Plant a bod unrhyw blentyn yr ydych yn eu cyflogi yn cael eu cyflogi mewn ffordd gyfreithlon.

Cyflogaeth sy’n Waharddedig i Blant

Ni chaiff plentyn o unrhyw oed eu cyflogi:

  • mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawnsio neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir gan blant yn gyfan gwbl
  • i werthu neu ddosbarthu alcohol, ac eithrio mewn cynhwyswyr seliedig
  • i ddosbarthu llaeth
  • i ddosbarthu olew tanwydd
  • mewn cegin fasnachol
  • i gasglu neu ddidoli ysbwriel
  • mewn unrhyw waith sy’n digwydd dros dair metr uwch ben lefel y ddaear/ llawr
  • mewn cyflogaeth sy’n golygu y byddant yn cael cysylltiad gyda chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol
  • i gasglu arian neu i ganfasio o ddrws i ddrws ac eithrio dan oruchwyliaeth oedolyn
  • i wneud gwaith a fydd yn cynnwys cael cysylltiad gyda deunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd sy’n anaddas i blant fel arall am y rheswm hwn
  • i werthu dros y ffôn
  • mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o siop cigydd neu mewn safle arall sy’n gysylltiedig gyda lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i’w gwerthu
  • fel gwasanaethydd neu gynorthwyydd mewn ffair neu arcêd ddifyrion neu mewn unrhyw safle arall a ddefnyddir at ddibenion diddanu’r cyhoedd trwy gyfrwng peiriannau awtomatig, gemau siawns neu ddawn neu ddyfais debyg
  • i ddarparu gofal personol i breswylwyr mewn unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14 oed neu’n hŷn

Dim ond gwaith ysgafn y gellir cyflogi plentyn 14 oed neu’n hŷn i’w wneud

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed

Dim ond gwaith ysgafn yn y categorïau canlynol y gellir cyflogi plentyn 13 oed i’w wneud:

  • gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • dosbarthu papurau newydd, cylchgronau a deunydd argraffedig arall
  • gwaith siop, gan gynnwys rhoi nwyddau ar silffoedd
  • siopau trin gwallt
  • gwaith swyddfa
  • golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl preifat
  • mewn caffi neu fwyty
  • mewn stablau marchogaeth
  • gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy’n cynnig llety

*Ni all yr un plentyn o unrhyw oedran weithio mwy na 4 awr mewn diwrnod heb seibiant o 1 awr.

Pan wyf yn 13 a 14 gallaf weithio:

Diwrnodau Ysgol

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dim mwy na 2 awr mewn un diwrnod
    • a) Yn y bore rhwng 7yb a dechrau ysgol ( 1 awr ar y mwyaf)
    • b) Yn y nos rhwng cau ysgol a 7yh

Sadwrn *

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • 4 awr y dydd rhwng 7yb a 7yh

Sul *

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dim ond 2 awr y dydd rhwng 7yb a 7yh

Gwyliau Ysgol

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • 4 awr y dydd ar unrhyw ddydd o’r wythnos (ond dydd Sul) rhwng 7yb a 7yh
  • Rhaid cyfyngu oriau’r wythnosol i 25 awr yn unig

Pan wyf yn 15 gallaf weithio:

Diwrnodau Ysgol

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dim mwy na 2 awr mewn un diwrnod
    • Yn y bore rhwng 7yb a dechrau ysgol ( 1 awr ar y mwyaf)
    • Yn y nos rhwng cau ysgol a 7yh

Sadwrn *

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • 8 awr y dydd rhwng 7yb a 7yh

Sul *

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dim ond 2 awr y dydd rhwng 7yb a 7yh

Gwyliau Ysgol

Yn ystod yr oriau canlynol:

  • 8 awr y dydd ar unrhyw ddydd o’r wythnos (ond dydd Sul) rhwng 7yb a 7yh
  • Rhaid cyfyngu oriau’r wythnosol i 35 awr yn unig
  • Mae’n rhaid i chi gael 2 wythnos olynol o wyliau mewn blwyddyn ac mae’n rhaid eu cymryd yn ystod gwyliau ysgol

Pan wyf yn 16 

Bydd yr oriau gwaith a bennir ar gyfer plant 15 oed yn gymwys ar eich cyfer tra ydych o oed ysgol orfodol. Pan fyddwch yn 16 mlwyddyn oed yr ydych yn ddyledus i adael yr ysgol ar Dydd Gwener diwethaf ym Mis Mehefin.

Ni allwch ddechrau swydd lawn amser hyd hynny.


Mae gan y Cyngor set o is-ddeddfau sy’n nodi’r amodau lle y gellir cyflogi pobl ifanc, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg am wybodaeth bellach.

A fyddech gystal â llenwi’r Ffurflen Gais Cyflogi Plant isod a’i dychwelyd gyda Ffurflen Asesiad Risg Cyflogaeth Plentyn wedi'i chwblhau, a 2 lun pasbort a dynnwyd yn ddiweddar o’r plentyn yr ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded waith ar eu cyfer.

Ffurflen Gais Cyflogi Plant

Ffurflen Asesiad Risg Cyflogaeth Plentyn

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Plant mewn Cyflogaeth ac Adloniant.