Yng Nghymru, rhieni sy’n meddu ar y cyfrifoldeb pennaf dros sicrhau bod eu plant yn cael addysg addas. Er y caiff y cyfrifoldeb hwn ei ddirprwyo i ysgolion fel arfer, bydd rhai rhieni yn dewis ei arfer yn uniongyrchol trwy ddarparu addysg yn y cartref; cyfeirir at hyn fel ‘Addysg yn y Cartref’.

Mae Ceredigion yn cydnabod hawl rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref a bydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni i sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg eang, cytbwys ac effeithlon sy’n addas i’w hanghenion. Mae angen i’r Awdurdod Lleol deimlo’n fodlon bod pob plentyn yn yr ardal yn cael addysg addas (fel y nodir yn Adran 437 Deddf Addysg 1996). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt ar gofrestr ysgol ac nad ydynt yn cael addysg addas ac eithrio mewn ysgol (e.e. yn y cartref, yn breifat neu mewn darpariaeth amgen). Er mwyn i ni arfer y dyletswyddau hyn, mae’r Awdurdod Lleol yn gofyn yn garedig i chi ein hysbysu o’ch bwriad i addysgu yn y cartref.

Nid yw’r hawl i addysgu yn y cartref yn un sylfaenol. Mae’n amodol ar rieni yn darparu addysg ‘effeithlon’ ac ‘addas’ i’w plentyn. Gall rhieni addysgu eu plant yn y cartref ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion adran 7 Deddf Addysg 1996.

Bydd rhiant pob plentyn oedran ysgol gorfodol yn peri iddynt gael addysg amser llawn effeithlon sy’n addas –

  1. i’w hoedran, eu gallu a’u dawn, ac
  2. i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddynt, naill ai trwy fynychu’r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Nid oes gofyn i blant a addysgir yn y cartref ddilyn unrhyw gwricwlwm penodedig neu fodloni meini prawf ynghylch nifer yr oriau dysgu. Gall dulliau addysgu yn y cartref fod yn amrywiol, o drefniant ffurfiol, strwythuredig wedi’i seilio ar amserlen ac sy’n digwydd yn amgylchedd y cartref yn bennaf, i addysg ymreolaethol neu a arweinir gan y plentyn neu ddull diysgol. Gellir teilwra’r dull a ddefnyddir i anghenion, diddordebau ac arddulliau dysgu y plentyn.

Os ydych yn ystyried addysg yn y cartref, ond os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar 01545 570881 neu gallwch anfon e-bost atom, at ehe@ceredigion.gov.uk.