Gwasanaeth cwnsela cyfrinachol i ddisgyblion 10 i 18 oed Ysgolion Ceredigion.

Rydym yma i gefnogi eich anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol.

Os ydych am i ni eich cefnogi cysylltwch a ni trwy eich Ysgol neu e bostiwch cwnsela@ceredigion.gov.uk.

Cofiwch, rydym yma i’ch helpu.

Darpariaeth y Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion dros wyliau’r Haf

Bydd cwnselydd ar gael am gyfnodau dros y gwyliau Haf i gynnig ‘Check In’ i’r disgyblion sydd angen cymorth. Gall y disgyblion gysylltu â’r Gwasanaeth trwy e bostio cwnsela@ceredigion.gov.uk a bydd cwnselydd yn cysylltu â nhw.

Bydd y Gwasanaeth yma ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol:

Gorffennaf 19fed – 23ain
Awst 2ail – 6ed
Awst 16fed – 27ain