Yn gyffredinol, cyfyngir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol a ddynodir gan yr AALl fel yr un sy'n gwasanethu'r ardal lle maent yn byw, ac i ddisgyblion sy'n preswylio o fewn y pellter angenrheidiol i'r ysgol.

Dyma'r pellteroedd perthnasol:-

  • Disgyblion Oed Cynradd (o 5 mlwydd oed) - 2 filltir new fwy o'r Ysgol
  • Disgyblion Oed Uwchradd - 3 milltir neu fwy o'r Ysgol

Caiff pellter ei fesur yn ôl y ffordd fyrraf i'w cherdded rhwng cartref ac ysgol. (O ffordd fawr a gynhelir gan y cyngor sydd agosaf at yr eiddo, i'r fynedfa ysgol agosaf sy'n arwain at safle'r ysgol)

Gall cymorth gael ei ddarparu hefyd ar gyfer disgyblion o dan amgylchiadau arbennig ar sail:-

  • ysgol yn llawn
  • cau'r ysgol/ail drefnu ysgol(ion)
  • diogelwch
  • meddygol
  • datganiad o anghenion addysgol arbennig
  • newid man preswylio yn ystod blywddyn olaf arholiadau
  • parhau gyda chwrs astudio safon uwch nad yw ar gael yn yr ysgol a ddynodwyd
  • credo grefyddol (o fewn 8 milltir i'r ysgol)
  • myfyrwyr ôl-16

Os nad yw disgyblion yn teilyngu 'cludiant am ddim' fel y'i diffinnir yn a) a b) gallent gael caniatâd, yn dilyn cais ysgrifinedig i'r Uned Cludiant Teithwyr Gorffoaraethol, Canolfan Rheidol, Rhoddfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i deithio mewn cerbydau a gontractwyd i'r Awdurdod Addysg Lleol, os oes llefydd sbâr ar gael.

Sut fedraf i wneud cais?

Mae'r ffurflen gais ar gael o dan Lawrlwythwyd. Fel arall, gallwch ofyn am ffurflen gais wrth gysylltu â 01545 572572.

Gallwch naill ai ei ddychwelyd i'r cyfeiriad canlynol neu wrth fynd â'r ffurflen i un o'r Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid - Swyddfeydd Lleol:

Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol
Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3JQ

Cludiant Ysgol / Coleg - Canllaw i Rieni, Gwarcheidwad a Dysgwyr

Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol / Coleg