1. Rwyf yn poeni fod fy mhlentyn yn cael anawsterau, beth allaf ei wneud?
  2. Beth yw fy hawliau a'm cyfrifoldebau?
  3. Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer fy mhlentyn?

Rwyf yn poeni fod fy mhlentyn yn cael anawsterau, beth allaf ei wneud?

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn cael anhawster nad yw wedi cael ei nodi, dylech siarad â'i athro dosbarth yn syth.

Byddwch yn gallu sgwrsio am eich pryderon a bydd hyn yn aml yn helpu i ddatrys pryderon a phroblemau yn gyflym.

Trwy gydweithio ag athrawon eich plentyn, bydd y cymorth yn fwy tebygol o lwyddo. Weithiau, bydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer eich plentyn.

Ar y dechrau, bydd yr athro dosbarth yn troi at Gydlynydd AAA yr ysgol neu'r Pennaeth am gyngor.

Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth ychwanegol i rieni/gofalwyr drwy ein gwasanaeth galw heibio i Rieni a gynhelir unwaith y mis. Cysylltwch a ni am wybodaeth bellach.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd drwy SNAP Cymru - elsuen plant Cymru gyfan sy'n gweithio gyda theuluoedd ar faterion sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan SNAP: www.snapcymru.org

Yn ôl i'r brig

Beth yw fy hawliau a’m cyfrifoldebau?

  • dylech bob amser ofyn am gyngor yn ddi-oed
  • dylid ymgynghori â chi am yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn
  • mae gennych rôl hanfodol o ran cefnogi addysg eich plentyn
  • dylai eich barn cael ei hystyried
  • rhaid i'r ysgol roi gwybod i chi pan fyddant yn dechrau rhoi help ychwanegol new wahanol ar gyfer eich plentyn
  • dylid ymgynghori â chi am yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn
  • lle bo'n briodol, dylai dymuniadau eich plentyn gael eu clywed
  • mae gennych hawl i gael copi o CAU eich plentyn
  • os ydych chi am siarad â rhywun sy'n annibynnol ac yn gwybod am anghenion addysgol arbennig, gallwch gael help a chyngor gan y gwasanaeth partneriaeth rhieni lleol neu, oddi wrth gyrff cenedlaethol neu fudiadau gwirfoddol lleol

Yn ôl i'r brig

Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer fy mhlentyn?

Yng Ngheredigion , rydym yn rhoi pwyslais mawr ar adnabod anghenion addysgol arbennig cyn gynted ag y bo modd fel y gall eich plentyn dderbyn y cymorth mwyaf effeithiol sydd ar gael.

Mae’r Ymateb Graddedig yn cydnabod bod plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac mae ganddynt wahanol fathau a lefelau o anghenion arbennig a bod yr athrawon i gyd yn athrawon anghenion arbennig.

Yn ôl diffiniad y Cod Ymarfer, mae’r Ymateb Graddedig yn cynnwys 3 lefel o gefnogaeth neu ymyrraeth.

Yn gyntaf, bydd yr ysgol yn gwneud defnydd llawn o'r holl adnoddau sydd ar gael yn y dosbarth a’r ysgol i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael pob cyfle i gael eu dysgu yn y ffordd sydd orau iddynt.

Bydd yr ysgol yn monitro ac yn adolygu cynnydd eich plentyn yn ofalus fel tystiolaeth i ddangos yr hyn sydd wedi cael ei wneud.

Os bydd cynnydd eich plentyn yn parhau i achosi pryder, gall cymorth ychwanegol a / neu arbenigedd gael ei ddwyn i mewn fel rhan o'r cylch parhaus o gynllunio, gweithredu ac adolygu.

Efallai y bydd angen i'ch plentyn gael helpu drwy’r Ymateb Graddedig am gyfnod byr neu am flynyddoedd lawer.

Gall amrywiaeth ac arddull y cymorth hwn gael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â chynnydd eich plentyn ag anghenion unigol.

Gweithredu Ysgol:

Ar y lefel hon , bydd yr ysgol yn nodi bod angen ymyriadau gwahanol ar eich plentyn i'r hyn a ddarperir fel rhan o gwricwlwm gwahaniaethol arferol yr ysgol.
Athro dosbarth eich plentyn fydd yn gyfrifol am weithio gyda nhw o ddydd i ddydd. Byddant yn cofnodi'r help mae eich plentyn yn derbyn mewn ffordd fwy ffurfiol.

Gelwir hyn yn gynllun ymddygiad/addysg unigol. (CAU/ CYU)

Bydd yn cynnwys :

  • pa gymorth sydd yn cael ei roi
  • pwy fydd yn ei ddarparu
  • pa mor aml y bydd eich plentyn yn derbyn y cymorth
  • beth yw targedau eich plentyn
  • sut y bydd y canlyniadau yn cael eu monitro
  • sut y gallwch chi gefnogi eich plentyn yn yr ysgol ac yn y cartref

Ar y lefel hon bydd yr athro dosbarth yn cael ei arwain a'i gefnogi gan gydlynydd AAA yr ysgol sy'n gallu cael mynediad at strategaethau ac adnoddau ychwanegol.

Ar y cam hwn, byddwch yn derbyn copi o CAU eich plentyn

Gweithredu Ysgol a Mwy:

Os na fydd cynnydd eich plentyn yn dangos gwelliant sylweddol , bydd y cydlynydd AAA yn ceisio cyngor pellach.

Bydd cydlynydd AAA yr ysgol yn casglu gwybodaeth a thrafod anghenion eich plentyn gyda'r arbenigwr a fydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth am y ffordd orau i helpu eich plentyn .

Gall hyn fod yn Athro Arbenigol, Therapydd Lleferydd neu Weithwyr Iechyd Proffesiynol eraill.

Fel gyda Gweithredu Ysgol, bydd hyn yn cael ei gofnodi yn eu CAU.

Yn ôl i'r brig

​Mae Cod Ymarfer AAA (Cymru) yn rhoi canllawiau i Awdurdodau Lleol ar sut i drefnu’r ddarpariaeth orau bosibl i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Mae Strategaeth AAA Ceredigion yn seiliedig ar y canllawiau hyn.

Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i godi cyrhaeddiad a chau'r bwlch ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag AAA fel eu bod yn cyrraedd y safonau gorau posibl o ran lles a chyfleoedd bywyd hirdymor.

Mae'r awdurdod yn credu bod pawb yn gyfrifol am wella canlyniadau ar gyfer disgyblion a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig.

Mae’r awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill i sicrhau bod pob plentyn yng Ngheredigion, beth bynnag eu hangen, yn cael eu gwerthfawrogi, yn profi llwyddiant yn eu dysgu, yn cyrraedd eu potensial ac yn cyflawni eu nodau personol ac yn gwneud y mwyaf o’u cyfleoedd i gael bywyd llawn ac ystyrlon.

Mae Ceredigion yn anelu i ddarparu:

  • addysg gynhwysol mor agos at y cartref a'r gymuned leol ag y bo modd
  • asesiad cynnar a chywir o anghenion
  • ystod eang, gytbwys a pherthnasol o gyfleoedd dysgu
  • ystod o ddarpariaeth brif ffrwd sy'n eang ac yn arbenigol
  • cymorth o ansawdd uchel, cyngor a hyfforddiant i ysgolion
  • gwybodaeth amserol, gywir a pherthnasol ar gyfer rhieni a gofalwyr
  • adnoddau a gwasanaethau sy'n briodol, yn effeithiol, yn deg, yn dryloyw, yn gyson, yn effeithlon ac yn atebol
  • mynediad i weithgareddau cymdeithasol a hamdden yn y gymuned

Lawrlwythwyd:

Strategaeth, Polisi a Gweithdrefnau

Polisi Anghenion Gofal Iechyd

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru, 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd', yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i greu a chynnal polisïau anghenion gofal iechyd effeithiol.

Paratowyd y polisi anghenion gofal iechyd enghreifftiol hwn i ysgolion a lleoliadau Ceredigion ei fabwysiadu.

Crëwyd y polisi hwn trwy gydweithio â phenaethiaid, cydlynwyr AAA a lleoliadau addysg, rhieni a gofalwyr, cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gydymffurfio'n agos â'r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael mynediad at ddogfen arweiniad Llywodraeth Cymru o'r cyfeiriad gwefan canlynol: www.learning.gov.wales

Polisi Anghenion Gofal Iechyd

Beth yw Anghenion Addysgol Arbennig?

Bydd tua un o bob pump o blant ag Anghenion Addysgol Arbennig ar ryw adeg yn ystod eu bywyd ysgol. Mae'r gyfraith yn datgan bod gan blentyn Anghenion Addysgol Arbennig ( AAA ) os yw ef neu hi ag anawsterau dysgu neu ymddygiad sydd angen cymorth arbennig.

Os yw eich plentyn ag anawsterau y maent:

  • yn ei chael yn anoddach i ddysgu na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran
  • ag anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd defnyddio'r ysgol leol

Gall anawsterau dysgu gael eu hachosi gan:

  • anabledd corfforol
  • problem gyda golwg, clyw, lleferydd ac iaith
  • oedi datblygiadol
  • anawsterau emosiynol neu ymddygiad a
  • problem feddygol
  • anawsterau penodol gyda darllen, ysgrifennu neu fathemateg

Bydd athro dosbarth y plentyn neu'r Pennaeth ar gael i drafod unrhyw bryderon sydd gan rieni am eu plentyn.

Gall y rhan fwyaf o anghenion cael eu diwallu mewn ysgol brif ffrwd gan yr athro dosbarth. Weithiau, bydd cymorth yn cael ei roi gan arbenigwyr eraill.

Mae ein holl ysgolion yn gallu darparu cymorth ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion ag AAA. Yn ogystal, fe fydd yna athro â chyfrifoldeb penodol am y maes i’w gael yn yr ysgol. Bydd y person hwn yn Gydgysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) yr ysgol.

Dyma rai enghreifftiau o anawsterau y bydd plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig yn profi:

  • darllen, ysgrifennu, gwaith rhif
  • deall gwybodaeth
  • mynegi eu hunain neu ddeall beth mae pobl eraill yn ei ddweud
  • gwneud ffrindiau neu ymwneud ag oedolion
  • ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
  • trefnu eu hunain
  • gall anhawster clywed, gweld, neu symud o gwmpas sy'n effeithio ar eu dysgu

Cynhwysiant yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn un o'r awdurdodau lleol mwyaf cynhwysol yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw ysgolion arbennig, dim ond nifer fach o ganolfannau adnoddau arbenigol sydd ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif ein dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd. Mae'r fideo hon yn disgrifio buddion addysg gynhwysol o safbwynt rhieni plentyn yn ogystal â'r gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm.