Rhannau o Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi'u cau er lles iechyd y cyhoedd

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984:

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Gwneir y Rheoliadau mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Daeth y rheoliadau i rym am 4pm ar 26 Mawrth 2020.

Mae'r Rheoliadau yn gosod oblygiad, ar Awdurdod Lleol i gau rhai llwybrau yn ystod yr argyfwng le mae’n ystyried:

  • (a) eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu
  • (b) bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder a lledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

Gellir gweld rhestr o'r llwybrau cyhoeddus sydd ar gau dros dro yma, neu yn y tabl isod. Cliciwch y ddolen i weld y llwybrau caeedig ar map.

Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 1af Fedi 2021, ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y Rheoliadau bob 21 o ddiwrnodau. Bydd y llwybrau ar gau nes ei fod o'r farn nad yw cau mwyach yn angenrheidiol i atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda'r coronafeirws.

Felly mae rhannau o Lwybrau Cyhoeddus wedi cael eu cau dros dro er budd iechyd y cyhoedd lle mae'r rhain yn debygol o ymgynnull o bobl, lefelau uchel o ddefnydd a rhannau cul o'r llwybr lle nad yw'n bosibl mabwysiadu mesurau pellhau cymdeithasol personol.

Lleoliad Hysbysiad Map
Ysgol Penweddig Aberystwyth Ysgol Penweddig Aberystwyth  Ysgol Penweddig Aberystwyth
Ysgol Uwchradd Aberaeron Ysgol Aberaeron Ysgol Aberaeron
Ysgol Llanfihangel y Creuddyn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn Ysgol Llangfihangel y Creuddyn