Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi paratoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy sy'n amlinellu gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer rhwydwaith y llwybrau cyhoeddus dros y 10 mlynedd nesaf.

O ganlyniad i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rhaid creu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Rhwydwaith y llwybrau cyhoeddus yng Ngheredigion – tua 2500 o gilometrau o hyd – yw un o'r prif ffyrdd y gall pobl gael mynediad at gefn gwlad a'i fwynhau. Mae hawliau tramwy yn elfen hanfodol o dwristiaeth wledig yng Ngheredigion a hefyd mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae ym maes iechyd a lles. Yn ogystal, mae rhwydwaith yr hawliau tramwy yn rhan o'r seilwaith teithio lleol, gan ddarparu llwybrau rhwng cartrefi pobl a chyfleusterau lleol neu leoliadau gwaith.

Y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy fydd y brif ffordd y bydd awdurdodau lleol yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i'w rhwydwaith hawliau tramwy lleol, ac wrth wneud hynny, byddant yn gwella'r ddarpariaeth i gerddwyr, beicwyr, pobl sy'n hoff o farchogaeth a'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd symud. Mae'r Cynlluniau hefyd yn ystyried y tir mynediad newydd sylweddol sydd bellach yn agored diolch i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008-2018

Paratoir Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ceredigion (y Cynllun) yn unol â gofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Deddf 2000). Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdodau lleol i baratoi cynllun strategol i ddatblygu, i reoli ac i hyrwyddo eu hawliau tramwy lleol presennol ac i newid y rhwydwaith o hawliau tramwy neu ychwanegu ato.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Adolygiad Canol Tymor 2013-2018

Roedd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008 yn cydnabod y byddai angen cynnal adolygiad canol tymor i sicrhau bod modd datblygu’r cynllun gweithredu ar gyfer rhan ddiwethaf cyfnod 10 mlynedd y cynllun. Erbyn 2012, roedd rhai o gamau gweithredu’r Cynllun eisoes wedi dyddio, yn rhannol oherwydd bod rhai targedau wedi’u bodloni ac yn rhannol oherwydd bod eraill bellach yn ymddangos yn afrealistig.

Mae’r ffactorau a’r gofynion a ganlyn wedi dylanwadu ar y ffordd y cafodd yr adolygiad ei gyflawni:

  • Symleiddio’r cynllun
  • Creu cynllun gweithredu mwy penodol a lleihau nifer y ‘themâu’.
  • Blaenoriaethu’r camau gweithredu.
  • Rhoi cyfle i’r gymuned fod yn rhan o’r gwaith ar hawliau tramwy.
  • Cynllunio ar gyfer y tymor hwy.

Cynllun Gwella Hawliau Trawmy 2013-2018

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2019-2029

Mae'n bleser gan Gyngor Sir Ceredigion gyhoeddi ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy diwygiedig.

Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy yw'r prif ffyrdd y bydd awdurdodau lleol yn nodi, yn blaenoriaethu ac yn cynllunio ar gyfer gwelliannau i'w rhwydwaith hawliau tramwy lleol - ac wrth wneud hynny gwnânt well darpariaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr, marchogion a'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i gael mynediad cefn gwlad.

Mae'r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yng Ngheredigion - sydd tua 2500km o hyd - yn darparu un o'r prif ffyrdd y gall pobl gael mynediad i gefn gwlad a'i fwynhau.  Mae hawliau tramwy yn rhan hanfodol o'r cynnyrch twristiaeth wledig ac mae ganddynt rôl bwysicach i'w chwarae o ran gwella / cynnal iechyd a lles ac o ran cyflawni'r amcanion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ar yr un pryd mae'r rhwydwaith hawliau tramwy yn rhan o'r seilwaith teithio lleol, gan ddarparu llwybrau o gartrefi pobl i gyfleusterau lleol a mannau gwaith.

Am ddogfennau gyda ffontiau mwy, anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Atodiad 1

Atodiad 2

Atodiad 3

Atodiad 4

Cynllun Gweithredu 2023-2024