Pecyn Gwybodaeth i Wirfoddolwyr

Bydd unigolion sydd yn gwirfoddoli ar gyfer y Cyngor yn cael Pecyn Gwybodaeth i Wirfoddolwyr. Mae’r pecyn hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt cyn gwneud unrhyw waith, fel system partneriaid ac asesiadau risg.

Ar gyfer fwy o wybodaeth, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk

A hoffech chi fod yn rhan o waith Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad?

Mae gwaith y gwirfoddolwyr yn gwneud byd o wahaniaeth wrth gyflawni'r nod o warchod ein hamgylchedd rhyfeddol. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig mewn sawl agwedd ar ein gwaith – gan gynnwys helpu i reoli bywyd gwyllt y môr a gwella hawliau tramwy.

Cynllun "Mabwysiadu Llwybr"

Cerddwyr yn pwyntio i arwydd

  • ydych chi wedi cael llond bol o ordyfiant ar lwybrau troed?
  • wedi hen flino ar giatiau sydd ddim yn agor a chamfeydd sydd wedi gordyfu?
  • a oes gennych ddiddordeb yng nghefn gwlad, cerdded, marchogaeth neu seiclo?
  • a oes gennych hoff lwybr yr ydych yn ei ddefnyddio yn aml?

Os felly, efallai buasai gennych ddiddordeb yn y cynllun mabwysiadu llwybr!

Hawliau Tramwy yng Ngheredigion

Mae Adran yr Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli dros 2500km o lwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau a cilffyrdd cyfyngedig. Mae’r rhwydwaith o lwybrau’n mynd trwy nifer o ardaloedd gwahanol, megis yr ucheldiroedd yn Nhregaron a Chwm Rheidol i rai o’r caeau amaethyddol yn iseldiroedd de Ceredigion. Mae ambell lwybr troed hefyd yn rhedeg ochr yn ochr ag Afon Teifi a’i choetiroedd brodorol ac amrywiol. Mae yna opsiwn ar gyfer pawb, beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi!

Manteision Posib ar gyfer Iechyd Personol

Cerdded yw un o’r ffurfiau symlaf o ymarfer corff a bod yn actif. Trwy seiclo, cerdded, marchogaeth a chynnal a chadw’r rhwydwaith o lwybrau troed, buasai’n hawdd i chi sicrhau eich bod yn gwneud 150 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos, yn unol â’r hyn a argymhellir. Daw nifer o fanteision o hyn o ran eich iechyd personol.

Trwy gymryd rhan, gallech chi hefyd fod yn helpu eich cymuned leol.

Grwp o cerddwyr yn arolygu llwybr troed

  • cerdded llwybrau troed a llwybrau ceffylau’n rheolaidd i gofnodi unrhyw broblemau o ran cael mynediad megis giatiau neu gamfeydd wedi torri, rhwystrau ac ati
  • helpu gyda gwaith cynnal a chadw syml megis torri llystyfiant yn ôl, iro giatiau, codi sbwriel, glanhau ceuffosydd, a gosod disgiau sy’n dangos y ffordd
  • cadw cofnodion o’r amser a dreuliwyd yn gwneud arolwg o’r llwybrau a gwaith cynnal a chadw
  • hyrwyddo defnydd synhwyrol o’r rhwydwaith hawliau tramwy
  • Pa gymorth gallem ni ei gynnig?

    • cymorth a chyngor gyda materion a chwestiynau’n ymwneud â hawliau tramwy
    • gwarchodaeth o dan yswiriant y Cyngor i wneud y gwaith
    • benthyca set sylfaenol o offer llaw i wneud y gwaith

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw un sydd dros 18 oed. Os ydych o dan 18 oed, gallech dal gymryd rhan gyda rhiant neu warcheidwad neu oedolyn a fydd yn goruchwylio.

Cymryd rhan

Mae cymryd rhan yn hawdd iawn. Gallwch naill ai gysylltu’n uniongyrchol ag Jill Lowry, y Swyddog Mynediad Cymunedol, ar 01545 574140 neu drwy e-bost - Jill.Lowry@ceredigion.gov.uk neu llenwch un o’r ffurflenni atodedig, a rhowch wybod i ni ym mha blwyf yr ydych yn byw ynddo. Bydd yr adran hawliau tramwy yn cysylltu â chi wedi hyn.

Ffurflen Gofrestru Cynllun Mabwysiadu Llwybrau

Manylion Cyswllt

Jill Lowry, Swyddog Mynediad Cymunedol, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA

Jill.Lowry@ceredigion.gov.uk

Group of walkers and a dog A volunteer trimming a tree overhanging a path

Gweithio gyda'r Ceidwaid

Gweithio gyda'r ceidwaidMae Ceidwaid Hawliau Tramwy Ceredigion yn ddibynnol iawn ar eu grwpiau o wirfoddolwyr i wneud llawer o’r gwaith cynnal a chadw sydd yn ei’n galluogi i gadw llwybrau cyhoeddus ar agor. Yn ddibynnol ar y tywydd a'r math o waith, mae yna dîm o wirfoddolwyr allan yn wythnosol. Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch efo Ceidwad eich ardal.

Ardaloedd Parcmyn