Gwywiad Coed Ynn

Clefyd a achosir gan ffwng yw Gwywiad Coed Ynn (Chalara) ac mae’n effeithio ar bob math o goeden onnen (Fraxinus).

Dyma’r clefyd mwyaf arwyddocaol i effeithio ar goed yn y Deyrnas Unedig oddi ar Glefyd Llwyfen yr Iseldiroedd. Ym Mhrydain, cafwyd y cofnod swyddogol cyntaf yn ne-ddwyrain Lloegr yn 2012, ac oddi yno mae wedi lledu tua’r gorllewin ac ar draws y DU. Erbyn hyn, mae’n effeithio ar bob rhan o Gymru.

Mae’r ffwng (Hymenoscyphus fraxineus) yn glynu wrth ddail y coed ynn ac yn ymledu drwy’r canghennau ac yn atal y systemau cludo dŵr, gan arwain at golli dail, briwiau ar y pren ac ar y rhisgl.

Mae hyn yn peri i gorun y goeden wywo’n raddol. Dros amser mae coed yn mynd yn fregus, gyda changhennau’n cwympo oddi ar brif foncyff y goeden. Os na chânt eu rheoli’n briodol, mae perygl i’r coed gwympo ac o’r herwydd maent yn peri risg gwirioneddol i’r ardal o’u cwmpas.

Ni wyddys am unrhyw driniaeth effeithiol i wella’r clefyd na ffordd ymarferol i atal y clefyd rhag lledu. Gallai Gwywiad Coed Ynn ladd dros 90% o goed ynn Ceredigion yn ystod y pump i ddeng mlynedd nesaf.

Mae gwywiad coed ynn yn effeithio ar ddail coed ynn gan beri iddynt dduo, gwywo a marw o oddeutu mis Mehefin ymlaen. O safbwynt coed ifainc iawn, y nodweddion uchod ynghyd â briwiau siâp diemwnt (rhannau o’r rhisgl wedi newid eu lliw) ar y boncyff yw’r prif nodweddion yn ystod cyfnod cynnar yr haint.

Fel yr awgryma’r enw, mae’r clefyd yn peri i’r goeden wywo o ymyl ei chorun. Mewn coed aeddfed, yr arwydd cyntaf fod coeden wedi’i heintio yw brigau noeth, ar frig y goeden ac ar bennau canghennau.

Wrth i’r clefyd ddatblygu ac wrth i nifer a hyd y canghennau marw gynyddu, mae’r goeden yn ymateb drwy beri i ddail newydd dyfu’n nes at y prif ganghennau a’r boncyff gan roi gwedd glystyrog i’r goeden, fel pe bai wedi ei haddurno â phompomau. Yn y pendraw, bydd y goeden yn edrych yn fwyfwy noeth a marw.

Gall gwywiad coed ynn arwain at golli lliw ar raddfa ddifrifol, a hefyd at gracio a lladd y rhisgl ar waelod y boncyff. Mae mwy o berygl i goed ynn sy’n dioddef o’r symptomau hyn farw’n sydyn a chwympo, felly dylent fod yn flaenoriaeth ar gyfer gwaith diogelwch os ydynt mewn safle sy’n achosi perygl i ddiogelwch y cyhoedd.

Noder nad yw’r goeden y cyfeirir ati fel criafolen neu gerdinen (mountain ash/rowan yn Saesneg) yn cael ei heffeithio gan wywiad coed ynn, gan nad yw’n aelod o rywogaethau ynn (Fraxinus).

Mae miloedd o goed ynn ar dir cyhoeddus yng Ngheredigion a miloedd yn fwy ar dir preifat. Mae coed ynn ymysg coed mwyaf cyffredin y sir. Maent yn cyfrannu’n arwyddocaol at y dirwedd a’r ecoleg lleol.

Dim ond â choed ar dir cyhoeddus y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn delio, hynny yw coed mewn parciau, ysgolion neu o fewn ymylon ffyrdd sy’n eiddo i Geredigion neu dan reolaeth Ceredigion.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal hefyd i amddiffyn y cyhoedd rhag coed peryglus ar dir preifat, coed a allai gael effaith ar ardaloedd cyhoeddus megis priffyrdd.

Caiff coed ynn a effeithiwyd gan wywiad coed ynn eu dosbarthu i un o bedwar dosbarth, yn seiliedig ar ba ganran o’r corun sydd wedi gwywo.

Mae’r coed sydd yng nghategori 1 naill ai heb eu heffeithio gan wywiad coed ynn neu’n dangos arwyddion cynnar o fod wedi’u heintio.

Bydd y coed yng nghategori 2 wedi colli 25-50% o’u canopi.

Bydd coed yng nghategorïau tri a phedwar wedi eu heffeithio’n fawr gan y clefyd gyda dros 50% o’r canopi wedi ei golli a’r canghennau’n fregus – bydd torri corun y coed hyn neu dorri’r coed i lawr yn flaenoriaeth, ond dim ond lle maent yn beryglus i’r cyhoedd.

Mae rhai coed ynn yn dangos gallu mawr i wrthsefyll y clefyd ac ni ddylid ystyried eu torri i lawr; mae’r coed hyn yn bwysig iawn oherwydd eu  gwerth ecolegol yn yr amgylchedd ac efallai y byddant yn gymorth yn y dyfodol wrth ailboblogi’r ardal â choed o’r math hwn.

Lle bo’n ddiogel gwneud hynny, dylid cadw hyd yn oed y coed hynny sydd wedi eu heffeithio gan wywiad coed ynn.

Weithiau, efallai y bydd yn briodol tocio coeden sydd wedi’i heffeithio neu dynnu ei changhennau, er mwyn ei gwneud yn ddiogel, yn hytrach na thorri’r goeden i lawr ar lefel y ddaear. Mae coed ynn yn cynnal ystod eang o fioamrywiaeth cysylltiedig, megis cen, bryoffytau ac anifeiliaid sy’n bridio, clwydo a chysgodi yn y coed, ac mae pren marw ar ei sefyll yn gynefin gwerthfawr.

Os oes gennych goed ynn ar eich tir a allai o bosibl gwympo ar dir, ffyrdd, hawliau tramwy neu eiddo cyfagos, mae hi’n bwysig bod y coed yn cael eu hasesu gan dyfwr coed cymwys a phrofiadol er mwyn penderfynu ar iechyd y coed a phennu i ba raddau y maent yn beryglus.

Mae gan dirfeddianwyr preifat ddyletswydd gofal dan gyfraith gyffredin i sicrhau eu bod yn gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol i atal niwed neu ddifrod i gymdogion. Mae ganddynt ddyletswydd gofal hefyd tuag at y sawl sy’n ymweld â’r tir, gan gynnwys tresmaswyr, dan Ddeddfau Cyfrifoldeb Meddianwyr. Mae’r Ddeddf Priffyrdd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr sicrhau nad ydynt yn peryglu pobl ar ffyrdd a llwybrau troed.

Mae dyletswyddau ychwanegol gan fusnesau dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle i sicrhau bod eu gweithleoedd yn ddiogel.

I’r sawl sy’n berchen ar un tŷ, gall olygu eich bod yn gorfod gwirio cyflwr eich coed ynn yn gyson, i dirfeddianwyr mwy a busnesau bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Nodi faint o goed ynn sydd gennych
  2. Asesu eu cyflwr presennol
  3. Nodi’r achosion hynny lle mae coed a effeithiwyd yn beryglus
  4. Gwneud unrhyw goed peryglus yn ddiogel
  5. Monitro’n flynyddol

Yr amser gorau i edrych am wywiad coed ynn yw rhwng diwedd mis Mehefin a mis Medi gan y bydd y gwywiad yn fwyaf amlwg pan fo’r goeden wedi deilio’n llawn. Yr amser gorau i dorri coed i lawr, os oes angen gwneud hynny, yw rhwng (ac yn cynnwys), mis Medi a mis Chwefror, gan y bydd hyn yn osgoi tymor nythu adar.

Noder, oherwydd y newidiadau strwythurol y mae gwywiad coed ynn yn eu hachosi i’r pren, efallai y bydd hi’n anodd darogan beth fydd yn digwydd nesaf i’r coed ac, felly, nid yw hi’n ddiogel eu torri i lawr o’r ddaear. Argymhellir mai dim ond torwyr coed neu gontractwyr a chanddynt y cymwysterau, y profiad a’r offer cymwys ddylai dorri unrhyw goed sydd wedi eu heintio’n wael.

GCC Presennol

Fel y disgrifiwyd uchod, ni argymhellir torri coed iach i lawr. Bydd ceisiadau am ganiatâd i dorri coed sydd wedi eu heffeithio a’r rhai sydd heb eu heffeithio yn cael eu barnu ar eu teilyngdod eu hunain, ac ni fydd y posibilrwydd o gael eu heintio gan wywiad coed ynn yn ystyriaeth arwyddocaol. Bydd torri coed sydd wedi eu heintio dan Orchmynion Statudol  Iechyd Planhigion yn eithriad.

GCC Newydd

Hyd oni chlywir yn wahanol, ni ystyrir y perygl posibl o haint gwywiad coed ynn yn gyfiawnhad arwyddocaol dros beidio â gwneud GCC, ond wedi i achos o wywiad coed ynn  gael ei gadarnhau, mae’n debygol o fod yn ffactor sylweddol a fydd yn pwyso yn erbyn gwneud gorchymyn.

Esemptiadau ar gyfer coed marw a pheryglus

Mae pob gofyniad i dorri coed i lawr dan Orchymyn Iechyd Planhigion wedi ei esemptio rhag yr angen i gael cymeradwyaeth GCC. Os oes coeden GCC o unrhyw rywogaeth yn farw neu’n peri risg uniongyrchol, mae’r gwaith o dorri’r goeden i lawr neu’r gwaith o dynnu ymaith unrhyw rannau sy’n beryglus wedi eu hesemptio rhag yr angen i gael caniatâd y Cyngor.  Fodd gyfan, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o bum niwrnod i’r Cyngor ynghylch gwaith a esemptiwyd

Ystyriaethau cyfreithiol eraill

Trwyddedau i dorri coed i lawr

Efallai y bydd angen trwydded arnoch i dorri coed ynn oddi ar eich tir, hyd yn oed os ydynt wedi eu heintio â gwywiad coed ynn. Gellir dod o hyd i wybodaeth am drwyddedau torri coed wrth ddilyn y ddolen ganlynol:

Deddfwriaeth yn ymwneud â rhywogaethau sydd wedi eu hamddiffyn

Mae adar sy’n nythu a’u hwyau, eu cywion a’u nythod wedi eu hamddiffyn gan y gyfraith. Cyhyd ag y bo’n bosibl, torrwch goed i lawr a’u tocio y tu allan i dymor nythu adar (1 Mawrth i 31 Awst).

Cyn torri unrhyw goed aeddfed i lawr, dylid eu harchwilio i weld a allent fod yn fannau clwydo i ystlumod. Mae mannau clwydo ystlumod wedi eu hamddiffyn, hyd yn oed pan nad ydynt wedi eu meddiannu. Bydd angen i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn dinistrio man gorffwys neu safle bridio unrhyw rywogaeth o ystlumod. Gweler y wefan ganlynol am ragor o wybodaeth: