Arwerthiant Llyfrau


Ymweliad awdur yn ysbrydoli pobl ifanc Ceredigion

Ar ddydd Llun 11 Medi 2023, ymwelodd Joseph Coelho, Awdur Llawryfog Plant Waterstones (2022-2024), â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan fel rhan o’i ymgyrch genedlaethol ‘Marathon Llyfrgelloedd’ er mwyn ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol trwy Brydain.

Ymunodd plant o Flwyddyn 6 Ysgol Bro Pedr ag ef yn Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar gyfer prynhawn o adrodd straeon a barddoniaeth, gyda Coelho yn rhannu ei frwdfrydedd at lyfrau gan ysbrydoli nifer o syniadau creadigol gan y plant eu hunain.

Nod ymweliad Coelho oedd hyrwyddo llyfrgelloedd a chariad at ddarllen, ac annog pobl o bob oed i ymuno â’u llyfrgell leol. Pwysleisiodd Coelho y rôl hanfodol mae llyfrgelloedd yn ei chwarae fel hybiau hollbwysig a chanolog yn y gymuned.

Dywedodd Joseph Coelho: “I lyfrgelloedd mae’r diolch fy mod i’n awdur, a llyfrgelloedd sy’n gwneud i gymunedau ffynnu. Rwy’n hynod ddiolchgar i lyfrgelloedd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, felly rwy eisiau defnyddio fy rôl fel Awdur Llawryfog Plant Waterstones i hyrwyddo’r deorfeydd dysgu hanfodol yma. Rwy eisiau cofleidio pob Llyfrgell, y sefydliadau gwyrthiol hyn lle mae gorwelion newydd i’w cael ar bob silff, a lle mae meddyliau’n cael eu meithrin.”

Ychwanegodd Delyth Huws, Llyfrgellydd Plant Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion: “Roedd yn gymaint o anrhydedd medru croesawu Joseph Coelho i Lyfrgell Llanbedr Pont Steffan. Mae rhannu storïau a chyd-ddarllen yn cynnig cymaint o fanteision amrywiol i blant, a chyda’r argyfwng costau byw presennol mae llyfrgelloedd yn cynnig gofod diogel a chynnes, sy’n llawn llyfrau anhygoel a fydd yn ysbrydoli plant o bob oed ac yn effeithio’n gadarnhaol ar eu bywydau yn y dyfodol.”

Ymunodd Coelho â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar ddiwedd ei ymweliad.

I gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i lyfrau yn eich llyfrgell leol, ewch i wefan Llyfrgell Ceredigion.


Clwb Lego Aberaeron

Dydd Llun 1af y Mis yn Llyfrgell Aberaeron rhwng 3:45yp a 5yp. I gofrestru e-bostiwch siriol.teifi3@ceredigion.gov.uk.


Llyfrgell Symudol Tregaron


Diweddariad Gwasanaeth

Yn ystod cyfnod pandemig Covid fe wnaeth Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion atal dirwyon am eitemau oedd wedi eu dychwelyd yn hwyr, gan newid i system lle roeddem yn adnewyddu benthyciadau yn awtomatig pan oedd eitemau yn cyrraedd eu dyddiad dychwelyd. O'r 1af o Fawrth 2023 ymlaen, bydd yr adnewyddu awtomatig hwn yn dod i ben. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi adnewyddu eich eitemau eich hunain naill ai trwy fynd i wefan Llyfrgell Ceredigion, trwy gysylltu â’ch cangen leol, neu trwy ddefnyddio Ap Pori. Rydym yn deall y bydd hi’n cymryd amser i chi ddod i arfer â’r system newydd hon felly ni fydd dirwyon am eitemau sydd yn cael eu dychwelyd yn hwyr ym mis Mawrth 2023. O Ebrill 1af 2023 ymlaen, fodd bynnag, byddwn yn ailgyflwyno dirwyon llawn am eitemau hwyr. Ewch i brif wefan Llyfrgelloedd Ceredigion ar gyfer y ffioedd a thaliadau cyfredol.

Os na ydych am dderbyn diweddariadau oddi wrth Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion yna e-bostiwch llyfrgell@ceredigion.gov.uk.


Cadw Ein Cymunedau Mewn Cysylltiad


Ffioedd a Thaliadau Llyfrgell Ceredigion

Ffioedd a Thaliadau Llyfrgell Ceredigion


Gaeaf Llawn Lles

Rhowch hwb i’r Galon drwy’r Gaeaf Llawn Lles

Eleni, rydym yn dilyn llwybr newydd drwy’r Gaeaf yng Nghymru. Wrth barhau i ddod i delerau ac ymdopi ag effaith Covid, yn hytrach na’n bod yn dyheu am ddiwedd y gaeaf, ein nod yw helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i deimlo’n dda wrth i ni nesau at y Gwanwyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gaeaf Lles.


Mynediad i Argraffiad Llyfrgell Ancestry o Bell yn Gorffen

Ym mis Mawrth 2020 bu’n rhaid i lyfrgelloedd ledled y byd gau eu drysau oherwydd y pandemig byd-eang. Gwnaeth ProQuest a Ancestry y penderfyniad digynsail i roi mynediad o bell dros dro i lyfrgelloedd cyhoeddus i Argraffiad Llyfrgell Ancestry i’r rhai a allai ddarparu dull dilysu diogel.

Am fwy o gwybodaeth ewch i tudalen Mynediad i Argraffiad Llyfrgell Ancestry o Bell yn Gorffen ar wefan Llyfrgelloedd Cymru.