Mae arweinwyr Cynghorau Sir Ceredigion, Sir Penfro Sir Gaerfyrddin wedi ymgynghori gyda arweinwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad ar draws ardal Hywel Dda wrth baratoi'r datganiad canlynol:
Datganiad gan yr Awdurdodau Lleol a'r Bwrdd Iechyd: Heriau sy'n deillio o ymchwydd sydyn mewn twristiaeth
‘Wrth i bandemig Coronafeirws (COVID-19) fynd rhagddo, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn her na welwyd ei thebyg o'r blaen yn y cyfnod modern.
‘Yn arbennig Mae'n bwysig dros ben bod pawb yn dilyn y cyngor gan y Llywodraeth i arafu a rhwystro'r firws hwn rhag lledu a'n bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ein GIG.
‘Mae'r Llywodraeth bellach wedi annog y cyhoedd i aros gartref a chyfyngu ar teithio i siwrnai hanfodol yn unig ac ni ellir gorbwysleisio pa mor hanfodol yw'r cyngor hwn.
Un pryder mawr yr ydym yn dechrau ei weld yw mewnlifiad o dwristiaid i Orllewin Cymru a'r canlyniadau y gallai hyn eu cael yn yr wythnosau nesaf ac yn enwedig y perygl difrifol y bydd pwysau aruthrol, diangen ar ein gwasanaethau a'n cadwyni cyflenwi.
‘Fel gefnogwyr cryf i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yma yn y gorllewin, rydym yn deall yn iawn yr heriau enfawr a difrifol sy'n wynebu'r sector a pham y bydd rhai busnesau am fanteisio ar y cyfle hwn i ddenu ymwelwyr ar hyn o bryd.
‘Fodd bynnag, ein prif flaenoriaeth yw'r angen i atal lledaeniad y firws hwn a hefyd amddiffyn ein GIG rhag y pwysau cynyddol a ddaw yn sgil twristiaeth ar adeg pan fyddant yn cael eu hymestyn i'r eithaf.’
Yn unol â Chyngor swyddogol y Llywodraeth a hefyd er mwyn cydnabod buddiannau'r boblogaeth breswyl yma yng Ngorllewin Cymru, mae'n resyn mawr ein bod yn cymryd cam digyffelyb a gofyn i bobl beidio â dod ar eu gwyliau i Geredigion, Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd.‘Rydym gyda'n gilydd yn archwilio pob ffordd i gefnogi'r holl fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng hwn ond y pryder pennaf yw cadw pobl yn ddiogel ac yn iach.
‘Peidiwch â bychanu risg y mae'r clefyd hwn yn ei gyflwyno. Byddem yn eich annog i gymryd yr holl gamau priodol i'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel, a hefyd yn helpu pawb sy'n byw ac yn gweithio yma yng Ngorllewin Cymru i aros yn ddiogel ac yn iach.
‘Rydym yn addo i chi y bydd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yr un mor anhygoel o leoedd unwaith y daw hyn i ben ac rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod yn y dyfodol agos pan fyddwn unwaith eto yn croesawu pawb yn ôl.’
Mae'r datganiad wedi'i gyhoeddi ar Fawrth 22 ar ran y canlynol:
- Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
- Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gâr
- David Simpson, arweinydd Cyngor Sir Penfro