Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau y gall trigolion Ceredigion symud o un lle i'r llall gan fyw bywydau llawn a gweithgar.

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i grwpiau yng Ngheredigion ac ar gyfer trigolion sydd â phroblemau symud.

Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi

Mae nawr rhyw 10 mlynedd ers i fenter Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen gael defnydd o fws cymunedol oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ,ac fel rhan o brosiectau Ymlaen, sefydlwyd Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

Ers sefydlu, mae Dolen Teifi nawr yn rheoli 6 bws mini yn ogystal a 2 car Cady sydd yn cario cadeiriau olwyn ynghyd a 4 teithiwr, ac mae’r gwasanaeth yn awr yn ymestyn i Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae oddeutu 80 o grwpiau wedi defnyddio'r bws ar gyfer amrywiol weithgareddau sydd wedi golygu fod nifer o drigolion lleol, na fyddent fel arall wedi gadael eu hardaloedd eu hunain, wedi gallu mynd i wahanol lefydd.

Mae nifer o wirfoddolwyr wedi bod ar hyfforddiant MiDAS, ac oherwydd bod gwirfoddolwyr yn dal i ofyn am gael mynd ar yr hyfforddiant, mae gan Dolen Teifi dri gwirfoddolwr cymwys yn Aseswyr Gyrwyr MiDAS sydd yn medru hyfforddi eraill i ddod yn yrwyr MiDAS.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ar 01559 362403 neu info@dolenteifi.org.uk.

Bws Bro Aberteifi

Gwasanaeth bws mini yw Bws Bro Aberteifi sydd yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Cludiant Gwledig Preseli neu Bws y Ddraig Werdd fel y’i adnabyddir – Mae ar gael yn Aberteifi a'r ardal gyfagos - gan gynnws Aberporth, Beulah, Llechryd, Llangoedmor, St Dogmaels, Penyparc, Parcllyn, i enwi rhai.

Rhedir y gwasanaeth mewn gwahanol ardaloedd ar dri diwrnod, dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9.30 a 15.30. Gellir ei ddefnyddio gan un-rhywun sydd ddim yn gallu defnyddio gwasanaeth arferol cyhoeddus am ba bynnag reswm. Bydd teithwyr sydd yn gymwys am Docyn Teithio Rhad yn cael defnyddio’r bws am ddim , ond bydd tâl am unrhyw un arall. Rhaid i deithwyr archebu sedd 48 awr cyn y diwrnod trafaelu.

Gofynnir i deithwyr gofrestru gyda GCGP er mwyn rhoi manylion cyswllt argyfwng ac unrhyw broblemau symud ac afiechyd.

Cysylltwch gyda’r Ddraig Werdd ar 0845 686 0242, gadewch neges os ofynnir ac fe wnawn ffonio chi yn ôl.