Os nad ydych yn medru gwneud taith hanfodol oherwydd diffyg trafnidiaeth, efallai y bydd Ceir Cefn Gwlad Ceredigion yn gallu eich helpu.

Cynllun cludiant gwirfoddol yw Ceir Cefn Gwlad a gydlynir gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS). Cyngor Sir Ceredigion sy'n ei ariannu ac mae'r gwasanaeth yn cynnig trafnidiaeth i drigolion Ceredigion, beth bynnag yw eu hoedran, os nad oes ganddynt drafnidiaeth ar gyfer teithiau hanfodol. Bydd y tâl a godir yn dibynnu ar y milltiroedd a deithir. Nid yw Ceir Cefn Gwlad yn disodli'r gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill a rhaid i'r gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad gysylltu â'r gwasanaethau hynny lle bynnag y bo modd.

Beth yw taith hanfodol?

Mae teithiau hanfodol yn cynnwys y canlynol:

  • Ymweliadau â'r doctor, deintydd, ciropodydd, optegydd
  • Ymweliadau â ffrindiau neu berthnasau sy'n sâl
  • Cwrdd â gwasanaethau bysiau neu drenau
  • Siopa hanfodol
  • Casglu presgripsiynau
  • Busnes personol pwysig (cyfreithiwr, cyfrifydd, ac ati.)

Rhagor o wybodaeth

Dylech nodi na chaiff yr un teithiwr ofyn am fwy nag un daith yr wythnos gyda'r gwasanaeth Ceir Gwledig oni bai bod argyfwng ac yr awdurdodir hynny gan Gydlynydd y Cynllun. 
0781 248 5809 
robert.evans@royalvoluntaryservice.org.uk