Mae rhwydwaith bysiau Ceredigion yn cysylltu holl brif drefi'r sir ynghyd â'r rhan fwyaf o bentrefi'r sir, gan gynnwys gwahanol atyniadau'r ardal.

Sut y darperir gwasanaethau bysiau?

Darperir y gwasanaethau bysiau yng Ngheredigion mewn dwy ffordd:

  • Mae cwmnïau bysiau yn darparu gwasanaethau masnachol heb dderbyn cymhorthdal gan y Cyngor. Y cwmnïau hyn sy'n rheoli'r teithiau, yr amseroedd a'r tâl a godir i fynd ar y bysiau.
  • Llwybrau bysiau sy'n cael cymhorthdal. Caiff y rhain eu darparu ar ran y Cyngor. Ni ellir darparu'r gwasanaethau hyn yn fasnachol, ond fe'u hystyrir yn angenrheidiol o safbwynt cymdeithasol. O'r herwydd, mae'r Cyngor yn rhoi contractau i gwmnïau i ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Fel rhan o ymrwymiad y llywodraeth i wella a chryfhau trafnidiaeth gyhoeddus, mae'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi rhai gwasanaethau.

Gwybodaeth ynghylch amserlenni

Cysylltwgch gyda www.traveline.cymru or 0800 464 0000 am unrhyw wybodaeth am amserlennu bws Ceredigion neu Gymru gyfan.

Cwmnïau

Mae'r cwmnïau canlynol yn darparu gwasanaethau bysiau yng Ngheredigion:

Evans CoachesYr Hen Orsaf,
Tregaron, SY25 6HX
01974 298546 N/A
Brodyr JamesGlanyrafon,
Llangeitho, SY25 6TT
01974 821255 N/A
Lloyds Coaches Hen Ddepo Crosville,
Dole Street,
Machynlleth, SY20 8BH
01654 702100 www.lloydscoaches.com
Mid-Wales Travel Unit 3 & 4, Glanyrafon Industrial Estate, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3JQ 01970 828288 www.midwalestravel.co.uk
Brodyr Richards Garej Trewyddel,
Ystad Ddiwydiannol Pentŵd,
Aberteifi, SA43 3AG
01239 613756 www.richardsbros.co.uk
Celtic Travel Celtic Travel, New Street,
Llanidloes, Powys, SY19 7BU
01686 412231 www.celtic-travel.co.uk
First Cymru First Cymru, Heol Gwyrosydd, Penlan, Swansea, SA4 7BN 01792 572255 www.firstgroup.com/south-west-wales

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru drwy fynd at wefan Traveline Cymru.

Gwybodaeth ddefnyddiol i ddefnyddwyr bysiau:

  • Gall y gwasanaethau newid ar fyr rybudd. Dylai defnyddwyr edrych yn fanwl ar fanylion y teithiau, yr amseroedd a'r tâl cyn dechrau ar eu taith.
  • Rhaid i gopïau o'r amserlen gael eu gweld mewn man amlwg ar y bws. Os yw'r Cyngor yn talu am y daith, rhaid i'r cwmni ddarparu copïau o'r amserlen ar y bws yn rhad ac am ddim.
  • Ni fydd gwasanaethau ar gael ar 25 a 26 Rhagfyr, nac ychwaith ar 1 Ionawr.
  • Yr amseroedd a ddangosir ar yr amserlenni yw'r amseroedd gadael. Gallai'r amseroedd hyn newid oherwydd traffig, gwaith ar y ffordd neu amgylchiadau annisgwyl eraill. Gofynnir i'r teithwyr fod wrth y safle bws cyn yr amser a nodwyd.
  • Mewn ardaloedd gwledig, gallwch fynd ar y bws neu oddi ar y bws mewn unrhyw fan ar hyd y ffordd cyn belled ag y bo'n ddiogel ym marn y gyrrwr. Dangoswch yn eglur i'r gyrrwr eich bod am ddal y bws.
  • Efallai na fydd y bws yn aros ym mhob safle, felly os byddwch am fynd oddi ar y bws canwch y gloch neu gofynnwch mewn da bryd i'r gyrrwr aros. Yng nghanol pentrefi a threfi, dim ond arosfannau cydnabyddedig a gaiff eu defnyddio. Cyfrifoldeb y gyrrwr yw ystyried diogelwch y teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd - a fyddech cystal â derbyn ei gyngor ef/hi wrth ofyn iddo/iddi stopio'r bws.
  • Wrth fynd ar y bws, dywedwch yn eglur lle'r ydych chi am fynd. Dywedwch pa fath o docyn yr ydych chi am ei gael ond gwnewch yn siŵr fod gennych arian parod os yw'n bosib. Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn cymryd y tocyn ac yn ei gadw drwy gydol y siwrnai - dyma'r unig brawf sydd gennych i chi dalu'r tâl ac efallai y bydd angen i chi ei ddangos i arolygwr. Os oes gennych drwydded neu docyn tymor gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddangos i'r gyrrwr wrth ddod ar y bws. Os nad yw gennych, bydd yn rhaid i chi dalu'n llawn.
  • Yn dilyn deddfwriaeth a ddaeth i rym yn 2007, mae'n anghyfreithlon ysmygu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Caiff teithwyr eu cludo yn ôl amodau a rheoliadau'r cwmni bysiau. Caiff anifeiliaid anwes neu becynnau eu cludo yn ôl disgresiwn y gyrrwr.
  • Dylech gysylltu â'r cwmni bysiau ynglŷn ag unrhyw beth yr ydych wedi ei golli.

Os oes gennych sylwadau, awgrymiadau neu gwynion am wasanaethau masnachol, dylech gysylltu â'r cwmni bysiau yn uniongyrchol. Os nad ydych yn teimlo bod eich cwyn wedi ei thrin mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Traffig, sy'n gyfrifol am drwyddedu a chofrestru cwmnïau bysiau a gwasanaethau bysiau lleol. Gweler y cyfeiriad isod:

Swyddfeydd Penrallt Offices
Ffordd Pafiliwn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BN

Ebost: enquiries@otc.gov.uk

Ffôn: 0300 123 9000

Gwefan Driver & Vehicle Standards Agency

Driver & Vehicle Standards Agency - GOV.UK (Saesneg yn unig)

Cerbyd Teithio Rhatach

Am wybodaeth ynglŷn â Chardiau Teithio Rhatach, cliciwch yma.