Mae ceir yn gyfrifol am 13% o holl allyriadau CO2 y Deyrnas Unedig, ac eto mae bron chwarter o'r holl deithiau mewn ceir o dan ddwy filltir. Mae nifer o ffyrdd o dorri'n ôl ar deithiau mewn ceir, gan gynnwys defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus, Rhannu Ceir, Cerdded a Beicio.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi teithio ecogyfeillgar. Ar y dudalen hon, cewch ragor o wybodaeth ynghylch Teithio Gwyrdd.
Pam Teithio Gwyrdd?
- Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach na gyrru car.
- Mae trafnidiaeth werdd yn well i'r amgylchedd na gyrru, yn enwedig os yw'r daith yn un fer.
- Mae rhwydwaith bysiau penigamp yng Ngheredigion.
- Nid oes angen poeni am barcio pan fyddwch yn defnyddio'r bws, yn cerdded neu'n beicio.
- Mae cerdded a beicio yn ymarfer corff da y gall y teulu cyfan ei fwynhau.
- Mae cerdded yn rhwydd ac yn rhad. Nid oes angen unrhyw offer/cyfarpar arnoch a gallwch gerdded fel rhan o'ch patrwm dyddiol.
Cynlluniau Teithio
Bwriad Cynlluniau Teithio yw lleihau'r nifer o bobl o fewn sefydliadau penodol, sy'n teithio yn eu ceir ar eu pen eu hunain. Maent yn cynnwys y materion canlynol:
- Rhannu ceir
- Trafnidiaeth Gyhoeddus
- Cerdded a Beicio
- Oriau gwaith hyblyg
- Gweithio o gartref/fideo-gynadledda
Pan weithredir Cynllun Teithio, ceir nifer o fanteision, gan gynnwys:
- Gostyngiad mewn costau teithio a threuliau
- Llai o bwysau ar fannau parcio lleol
- Gwella iechyd a lles staff
- Cadw mwy o staff a llai o staff yn absennol
Os yw'r cynlluniau teithio yn rhai da, ceir gostyngiad o 15% yn y nifer o deithiau i'r gwaith lle nad oes ond un person mewn cerbyd yn teithio ar eu pen eu hunain. Mae'r gostyngiad cymharol fach hwn yn arwain at ostyngiad mawr yn y nifer o filltiroedd a deithir ac yn fwy na hynny, mae'n golygu y ceir llai o dagfeydd traffig.
Rhannu Ceir
Rhannu ceir yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn rhannu car, ac yn teithio gyda'i gilydd, i leihau'r nifer o bobl sy'n teithio ar eu pennau eu hunain mewn ceir.
Mae manteision Rhannu Ceir yn cynnwys y canlynol:
- Arbed arian
- Lleihau eich ôl troed carbon
- Helpu lleihau tagfeydd traffig
- Creu llai o broblemau parcio
- Cynnig cludiant mewn mannau lle nad oes cludiant cyhoeddus
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhannu ceir, gweler tudalen TraCC ynghylch rhannu ceir.
Mae TraCC a Liftshare, sefydliad rhannu ceir mwyaf y Deyrnas Unedig, wedi dod ynghyd i ddatblygu cronfa ddata ar gyfer ardal Canolbarth Cymru o'r enw Rhannu Car Canolbarth Cymru.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd dda o ostwng eich allyriadau carbon. Am ragor o wybodaeth, ewch at y tudalenau Trafnidiaeth Gyhoeddus.
Beicio
Mae beicio yn ffordd dda o deithio gan fanteisio ar rywfaint o ymarfer ffordd ar yr un pryd. Mae Ceredigion yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, a cheir chyfleoedd i feicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd drwy'r Sir. Hefyd, mae gan Geredigion nifer o Lwybrau Beiciau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Os ydych yn bwriadu dechrau beicio, mae nifer o ffyrdd o wneud hynny. Mae nifer o siopau beiciau yng Ngheredigion a gallwch hefyd brynu beiciau ar-lein. Diddordeb mewn beicio i'r gwaith? Mynnwch air â'ch cyflogwr ynglŷn â Chynllun Beicio'r Llywodraeth.
Mae gwybodaeth ynghylch Diogelwch ar y Ffyrdd i feicwyr yng Ngheredigion ar gael ar ein tudalen Diogelwch wrth Feicio. Mae gwybodaeth ynghylch Rheolau'r Ffordd Fawr i Feicwyr ar gael drwy glicio yma.
Am restr o wefannau defnyddiol ynghylch beicio, gweler yr adran Dolenni isod.
Cerdded
Cerdded yw'r ffordd rataf a hawsaf o fynd o un lle i'r llall - nid oes ond angen pâr da o esgidiau ac ychydig o funudau bob dydd. Mae cerdded i'r gwaith neu'r ysgol yn y bore neu wrth fynd i siopa yn golygu y ceir llai o lygredd a thagfeydd traffig, yn ogystal â bod yn llesol i chi. Mae cerdded yn ymarfer aerobig arbennig o dda, a gall lleihau eich risg o ddatblygu nifer o afiechydon.
Mae llawer o lefydd y gallwch chi gerdded yng Ngheredigion, gan gynnwys llwybrau arfordirol ynghyd â theithiau dros Fynyddoedd Cambria ac i lawr i'r cymoedd. Am fwy o wybodaeth, ewch at ein tudalen Cerdded yng Ngheredigion, neu ein tudalen ynghylch Archwilio Ceredigion.
Mae gwybodaeth ynghylch Rheolau'r Ffordd Fawr i gerddwyr yma. Gallwch gael gwybodaeth ynghylch Diogelwch ar y Ffyrdd i Gerddwyr drwy glicio yma.