Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu gostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol ar strydoedd dan olau stryd/strydoedd preswyl o 30mya i 20mya. Daw hyn i rym yn 2023 ac mae’r Llywodraeth yn bwriadu pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol cyn hynny.

Yn y cyfamser, mae’r Cyngor wedi penderfynu na fydd newidiadau eraill yn digwydd i’r terfynau cyflymder presennol a’u trefniant ar ffyrdd y Sir tan ar ôl i Lywodraeth Cymru greu canllawiau newydd ar osod terfynau cyflymder lleol, ar wahân i gynlluniau a ariennir drwy grantiau ac amgylchiadau eithriadol eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am y bwriad i newid y terfyn cyflymder cenedlaethol i’w chael ar tudalen Cyflwyno trefynau cyflymder 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru.