Hysbysiadau Adran 58 arfaethedig a'r rhai sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Ceredigion, fel yr Awdurdod Stryd, yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o dri mis o'r bwriad i ymgymryd â gwaith sylweddol at bwrpas ffyrdd fel y'i nodwyd yn y rhaglen isod.

Yn amodol ar eithriadau yn y Ddeddf a'r Rheoliadau ynghlwm wrthi, ni ellir gweithredu unrhyw Waith Stryd am gyfnod penodedig o gwblhad y gwaith a ddisgrifiwyd yn y rhaglen isod heb ganiatâd y dywededig Cyngor Sir Ceredigion, na fydd yn cael ei atal yn afresymol.