Mae'r Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan) (Gorchymyn Diwygio Rhif 6) 2022, mewn grym o 23/03/2022. Effaith hyn yw cyflwyno Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg ynghyd ar Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan.
Os credwch fod y Gorchymyn hwn yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys erbyn 04/05/2022.
DATGANIAD O’R RHESYMAU
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan) (Gorchymyn Diwygio Rhif 6) 2022 ar sail sicrhau a chynnal darpariaeth resymol ar gyfer parcio a sicrhau llif rhydd traffig.