Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys cymdogion sy’n swnllyd neu’n ymddwyn yn ddifrïol, taflu sbwriel a graffiti. Gall achosi i chi deimlo’n ofnus, yn grac ac o dan fygythiad.

Mae’r Awdurdod Lleol a’r Heddlu, ynghyd â sefydliadau eraill, yn cydweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cwynion am Sŵn

Mae gan bawb hawl i fwynhad tawel yn ei gartref. Os ydych chi’n teimlo bod sŵn gormodol wedi tarfu ar hyn, er enghraifft cŵn yn cyfarth yn ddi-baid, sŵn yn hwyr y nos o dafarnau neu glybiau neu beiriannau, yna gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i achos y broblem, a gall hyn arwain at gamau yn erbyn y sawl sy’n gyfrifol am y sŵn. Os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd drwy anfon e-bost at publicprotection@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 572 105.

Mae niwsans sŵn yn cael ei asesu ar y sail hon

  • a yw’r sŵn yn ‘rhesymol’ o ystyried yr ardal
  • pa mor aml y mae’r sŵn yn digwydd
  • ar faint o bobl y mae’r sŵn yn effeithio

Caiff pob achos ei asesu yn ôl teilyngdod ac ar sail pa mor sensitif yw unigolyn cyffredin. Y peth cyntaf y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei wneud fydd gofyn i chi lenwi ‘dyddiadur’ i bennu pa fath o sŵn sydd i’w glywed, pa mor aml y mae’n digwydd a phryd y mae’n digwydd. O wneud hynny, bydd modd i’r swyddog sy’n ymchwilio bennu a yw’r sŵn yn peri niwsans, pa mor aml y mae’n digwydd a pha mor ddifrifol yw’r sŵn.

Byddem hefyd yn eich annog chi i ddefnyddio’r Ap Sŵn (Saenseg yn unig), y gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn i recordio sŵn. Gallwch gyflwyno eich cwyn drwy’r Ap Sŵn.
Os oes rheswm dros wneud hynny, caiff y sŵn ei recordio am 6 diwrnod cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Bydd y sawl sy’n creu’r sŵn yn cael gwybod am yr ymchwiliad cyn i unrhyw sŵn gael ei recordio. Mewn achosion difrifol, gall yr Awdurdod Lleol roi hysbysiad diddymu i gyfyngu ar amseroedd neu lefel y sŵn a gall roi dirwyon o hyd at £20,000.

Os yw’r sŵn yn dod o safle neu ddigwyddiad trwyddedig, dylech gysylltu ag Adain Drwyddedu’r Awdurdod Lleol drwy ffonio 01545 572179 neu e-bostio publicprotection@ceredigion.gov.uk.

Perthi Uchel

Yn aml gall anghydfodau ynghylch perthi terfyn arbennig o uchel fod yn ddadleuol. Ni all yr Awdurdod Lleol ymwneud â hwy ond o dan amgylchiadau penodol ac ar ôl i chi roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys y broblem. Siaradwch â’ch cymydog, defnyddiwch wasanaeth cyfryngu a chadwch gofnodion o bob cam a gymerir. Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaeth mae’r Awdurdod Lleol yn ei gynnig.

Tai Amlfeddiannaeth

Mae problemau penodol yn gysylltiedig â Thai Amlfeddiannaeth sydd wedi’u lleoli yn y gymuned. Gall problemau o’r fath godi oherwydd bod cynifer o bobl sy’n perthyn i grwpiau penodol (e.e. myfyrwyr ac ati) yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth a bod eu gwerthoedd yn gwrthdaro â gwerthoedd y gymuned. Gall y problemau hefyd fod yn gysylltiedig â’r ffaith bod gwead y gymuned wedi newid mewn ffordd sy’n rhoi straen ar amwynderau lleol.

Er enghraifft, gall sŵn neu sbwriel o Dai Amlfeddiannaeth achosi pryder i bobl sy’n byw mewn tai cyfagos, neu gall fod problemau parcio. Gall problemau godi os yw’r rhai sy’n rheoli’r eiddo’n esgeulus o ran y ffordd maen nhw’n ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol.

Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer problemau sy’n gallu bod yn gysylltiedig â Thai Amlfeddiannaeth ac mae’n caniatáu i’r Awdurdod Lleol fynd i’r afael â phroblemau o’r fath, yn enwedig unrhyw landlord neu asiant sy’n methu â rheoli materion o’r fath yn effeithiol. Caiff mân broblemau eu datrys naill ai drwy’r ‘Rheoliadau Rheoli’ neu drwy’r drefn drwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Serch hynny, mae gan y Cyngor hefyd bŵer i wneud Gorchymyn Rheoli Interim, os oes modd iddo gyfiawnhau gwneud hynny. O dan Orchymyn o’r fath, bydd y Cyngor yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r Tŷ Amlfeddiannaeth. Os yw ymddygiad pobl sy’n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth yn peri pryder i chi, fel cymydog neu fel cyd-breswylydd, rhowch wybod i’r Awdurdod Lleol am eich pryderon. Ewch i’r dudalen Rhoi gwybod am Dŷ Amlfeddiannaeth.