Pennu lefelau rhent

Nid oes unrhyw reolau ynghylch pennu’r rhent ar gyfer eich eiddo. Serch hynny, dylech gadw mewn cof y rhent sy’n cael ei godi gan eraill yn yr ardal i sicrhau nad yw’ch rhent chi tu hwnt i gyrraedd y farchnad. Gall hefyd fod yn werth ystyried cyfraddau’r lwfans tai (budd-dal tai) lleol, oherwydd gall y cyfraddau hynny bennu’r hyn sy’n fforddiadwy i denant. Cewch fwy o wybodaeth drwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Yn unol â Chod Ymarfer Rhentu Doeth Cymru, rhaid i landlordiaid roi gwybodaeth i denantiaid am swm y rhent a'r trefniadau talu, a sut a phryd y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Dylai'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn y cytundeb tenantiaeth.

Dim ond os yw'r tenant yn cytuno trwy amod yn y contract y gall landlordiaid gynyddu rhent tenantiaeth cyfnod penodol. Os nad ydyn nhw'n cytuno, dim ond pan ddaw'r cyfnod penodol i ben y gellir ei gynyddu a bydd angen i chi roi rhybudd iddyn nhw o hyd.

Os yw’r denantiaeth yn denantiaeth gyfnodol (yn treiglo o fis i fis), dylai’r cytundeb nodi pa mor aml y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Gall y ddau barti gytuno i gynyddu’r rhent ar gyfer tenantiaeth gyfnodol ar unrhyw adeg a dylid cadarnhau’r cynnydd yn ysgrifenedig. Fel arfer, ni chaiff landlordiaid gynyddu’r rhent yn amlach nag unwaith y flwyddyn oni bai fod y tenant yn cytuno.

Codi Ffioedd

Yn ogystal â'r rhent, efallai y bydd gan landlordiaid ffioedd eraill y maent am eu codi ar y tenant. Mae Deddf newydd Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 yn cyfyngu'r rhain i restr a ganiateir.

Gallwch chi godi'r ffioedd canlynol a ganiateir ar denant;

  • Rhent (ond rhaid iddo beidio ag amrywio trwy gydol y cyfnod)
  • Adnau (rhaid ei ddal mewn cynllun awdurdodedig)
  • Blaendal cadw (rhent 1 wythnos ar y mwyaf a rhaid ei ad-dalu i'r tenant yn ddiweddarach)
  • Treth y Cyngor (ond dim ond i werth y bil)
  • Biliau cyfleustodau a chyfathrebu (ond dim ond i werth y bil)
  • Rhai taliadau os na chyflawnir y contract, a fydd yn cael eu nodi gan reoliadau statudol eraill. (Newid cloeon, allweddi newydd a llog ar daliadau rhent hwyr ar hyn o bryd)

Mae pob tâl arall megis ffioedd symud i mewn, neu ffi am adnewyddu neu newid tenantiaeth yn cael eu hystyried yn daliadau gwaharddedig ac nid ydynt bellach yn gyfreithiol.  Gallech gael dirwy os codwch daliad gwaharddedig. Ni fyddwch chwaith yn gallu rhoi hysbysiad adran 21 am feddiant o'r eiddo os ydych wedi cymryd taliad gwaharddedig, a heb ei ad-dalu.

Treth Incwm

Os ydych yn gosod eiddo, bydd fel arfer rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y rhent rydych chi’n ei gael. Bydd swm y dreth i’w dalu’n dibynnu ar faint yr elw rydych chi’n ei wneud a maint eich incwm arall, wedi tynnu’ch lwfans treth personol.

Os byddwch yn gosod ystafell yn eich cartref, fe all y cynllun ‘Rhentu Ystafell’ fod yn berthnasol i chi. Os felly, cewch ennill hyd at £4250 heb dalu treth.

I gael gwybodaeth fanylach, mynnwch air â chyfrifydd neu ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Cymorth i Adnewyddu Eiddo

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion amryw o gynlluniau grant a chynlluniau benthyca i’ch helpu i osod mesurau arbed ynni, i atgyweirio ac i adnewyddu eiddo, i ddefnyddio eiddo gwag eto neu i addasu eiddo ar gyfer pobl anabl. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r tudalennau ynghylch Cymorth Ariannol.