Amgaeaf Gytundebau Enghreifftiol ar gyfer Tenantiaeth Fyrddaliol Sicr sydd i’w defnyddio yn y sector rhentu preifat i sefydlu tenantiaethau byrddaliol sicr. Mae’r pecyn yn cynnwys y dogfennau canlynol:

  1. Pedwar Cytundeb Enghreifftiol - ar gyfer landlordiaid a deiliaid contractau (tenantiaid)
    • Tŷ - Cytundeb Tenantiaeth Gyfnodol
    • Fflat - Cytundeb Tenantiaeth Gyfnodol
    • Tŷ - Cytundeb Tenantiaeth Cyfnod Penodol
    • Fflat - Cytundeb Tenantiaeth Cyfnod Penodol
  2. Taflen Ffeithiau - crynodeb o'r wybodaeth yn y contract
  3. Ffurflen Gweithred Amrywio - ffurflen i'r landlord a deiliaid y contract ei chwblhau pan fydd un o blith dau denant ar y cyd neu fwy yn dymuno trosglwyddo budd y contract i denant arall

Mae’r Cytundebau Enghreifftiol yn cynnwys canllawiau ar sut i’w defnyddio ac esboniad o’r cymalau. Fe’u lluniwyd gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Grŵp Llywio Landlordiaid ac Asiantau Tai Sector Preifat Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth ac Urdd Myfyrwyr Aberystwyth a dylid eu defnyddio pan fo’r landlord a’r tenant yn sefydlu cytundeb ar gyfer tenantiaeth fyrddaliol sicr yn y sector rhentu preifat. Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r dogfennau hyn o ran arfer da, ac mae’r sefydliadau uchod hefyd wedi’u cymeradwyo.

Darperir y Cytundebau Enghreifftiol yn rhad ac am ddim i landlordiaid yn y sector rhentu preifat yng Ngheredigion, a gallwch eu lawrlwytho o wefan y Cyngor neu ofyn am gopïau drwy e-bost. Bydd angen eu hargraffu a’u cwblhau mewn llawysgrifen. Mae’r cytundebau hyn yn sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau a chyfrifoldebau’r landlord a’r tenant, yn unol â’r fframweithiau cyfreithiol presennol ac arfer da o ran rheoli a gosod tai. Darllenwch bob rhan o’r ddogfen yn fanwl cyn llofnodi unrhyw gytundeb tenantiaeth gyda’r dogfennau hyn.

Dylid gwneud dau gopi o’r cytundeb; y naill i’r landlord a’r llall i’r tenant. Bydd y landlord a’r tenant yn gyfrifol am gadw’r cytundeb mewn lle diogel, gan y gallai fod angen cyfeirio ato yn ystod y denantiaeth.

Nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio’r Cytundeb Enghreifftiol. Nid oes gofyniad cyfreithiol i chi ei ddefnyddio, ond gallwch chi fod yn hyderus wrth wneud hynny. Caniateir i landlordiaid, tenantiaid a’u hasiantau gopïo’r Cytundeb Enghreifftiol heb ei addasu, a’i ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo a osodir yng Ngheredigion.