Tenantiaethau Byrddaliol Sicr

Tenantiaid byrddaliol sicr yw mwyafrif llethol y tenantiaid preifat. Mae gennych denantiaeth fyrddaliol sicr:

  • os bu i chi symud i mewn ar 28ain Chwefror 1997 neu ar ôl hynny ac
  • os ydych yn talu rhent i landlord preifat ac
  • os oes gennych reolaeth dros eich cartref sy’n golygu na all eich landlord na phobl eraill ddod i mewn fel y mynnant ac
  • os nad yw’r landlord yn byw yn yr un adeilad â chi

Byddwch hefyd yn denant byrddaliol sicr os bu i chi symud i mewn rhwng 15 Ionawr 1989 a 27 Chwefror 1997 a bod eich cytundeb tenantiaeth yn nodi’n benodol mai tenantiaeth fyrddaliol sicr yw hi.

Efallai bod gennych denantiaeth sy’n para am gyfnod penodol fel chwe mis (tenantiaeth cyfnod penodol yw’r enw ar hon). Neu efallai bod gennych denantiaeth sy’n treiglo o wythnos i wythnos neu o fis i fis (tenantiaeth gyfnodol yw’r enw ar hon).

Mae’r gyfraith yn rhoi hawl i chi:

  • gael gwybodaeth am eich tenantiaeth
  • rheoli’ch cartref er mwyn atal pobl eraill rhag dod i mewn fel y mynnant
  • mynnu bod mathau penodol o atgyweiriadau’n cael eu gwneud (i strwythur a systemau’r tŷ yn bennaf)
  • byw yn eich cartref hyd nes i’r landlord gael gorchymyn llys i’ch troi chi allan

Gall tenantiaid byrddaliol sicr gael eu troi allan yn weddol rhwydd, yn enwedig pan fydd unrhyw gytundeb cyfnod penodol wedi dod i ben. Efallai na fydd rhaid i’r landlord roi rheswm dros eich troi chi allan, ond fel arfer bydd rhaid iddo roi deufis o rybudd ysgrifenedig i chi. Gall landlord ofyn i denant byrddaliol sicr adael heb fod ganddo reswm da hefyd:

  • os yw’r cytundeb cyfnod penodol cychwynnol (a allai fod yn chwe mis, yn ddeuddeg mis neu’n fwy) wedi dod i ben
  • os oedd y denantiaeth yn denantiaeth gyfnodol (tenantiaeth dreigl, heb unrhyw dymor penodol) a bod y tenant wedi bod yn yr eiddo am fwy na chwe mis
  • os cafodd unrhyw flaendal a dalwyd i’r landlord ei dalu i gynllun diogelu blaendal

Os ydych wedi torri telerau’ch cytundeb tenantiaeth, er enghraifft drwy beidio â thalu’r rhent neu drwy ddifrodi’r eiddo neu drwy ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gall fod hawl gan eich landlord roi cyn lleied â phythefnos o rybudd i chi adael yr eiddo.

Os na fyddwch wedi gadael erbyn diwedd cyfnod y rhybudd, bydd rhaid i’ch landlord fynd i’r llys i gael gorchymyn llys i’ch troi chi allan. Gorchymyn ildio meddiant yw’r enw ar y gorchymyn hwn. (Mae’r gorchymyn yn caniatáu i’r landlord gymryd meddiant o’r eiddo.) Os yw’r landlord wedi dilyn y weithdrefn briodol, bydd y llys yn rhoi’r gorchymyn iddo a gall fod yn rhaid i chi dalu’r costau.

Os na fyddwch wedi gadael erbyn i’r gorchymyn llys ddod i rym, gall y llys ofyn i feilïaid ddod i’ch symud o’r eiddo.

Os bydd y landlord yn ceisio gwneud i chi adael heb ddilyn y weithdrefn gywir, gall fod yn euog o gyflawni trosedd. Ewch i’r dudalen am aflonyddu a throi allan anghyfreithlon i gael mwy o wybodaeth.