I wybod pa hawliau sydd gennych, er enghraifft faint o rybudd y dylech chi ei gael pan ofynnir i chi adael yr eiddo, mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod pa fath o gytundeb tenantiaeth sydd rhyngoch chi a’ch landlord.

Os nad oes cytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a’ch landlord, nid yw hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw hawliau na chyfrifoldebau, ond fe allai olygu nad oes gennych lawer o hawliau. Eithriad i hyn yw tenantiaid sydd wedi byw mewn eiddo am gyfnod hir (cyn mis Ionawr 1989) ac sy’n denantiaid rheoleiddiedig. Fel arfer, mae gan denantiaid rheoleiddiedig fwy o hawliau na thenantiaid â mathau eraill o gytundebau tenantiaeth.

Tenantiaeth Cyfnod Penodol neu Denantiaeth Gyfnodol?

Efallai bod gennych denantiaeth cyfnod penodol lle rydych chi wedi cytuno i fyw yn yr eiddo am gyfnod penodol (6 neu 12 mis fel arfer). Efallai nad ydych chi erioed wedi cytuno ar gyfnod penodol. Os felly, mae gennych denantiaeth gyfnodol. Os oes gennych denantiaeth cyfnod penodol, fel rheol ni all eich landlord ofyn i chi adael cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben heb fod ganddo reswm da (neu sail). Yn yr un modd, ni allwch chi fel arfer derfynu’r denantiaeth yn ystod y cyfnod hwn, oni bai fod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny. Os yw’r cyfnod penodol yn dod i ben ac os nad ydych yn llofnodi cytundeb cyfnod penodol arall, mae’r denantiaeth yn troi’n denantiaeth gyfnodol yn awtomatig. Fel arfer, nid oes rhaid i’r landlord roi rheswm dros ofyn i chi adael (oni bai eich bod yn byw yn yr eiddo ers llai na chwe mis), ond bydd angen iddo ddilyn gweithdrefn benodol i’ch troi chi allan.

Os ydych chi’n credu bod eich landlord wedi gofyn i chi adael heb iddo ddilyn y weithdrefn briodol, dylech ofyn am gyngor. Os ydych yn teimlo bod gweithredoedd y landlord yn rhoi pwysau arnoch i adael, fe all fod yn euog o aflonyddu arnoch neu’ch troi allan yn anghyfreithlon.

Telerau Tenantiaeth Annheg

Mae’r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i denantiaid a landlordiaid ac nid yw telerau unrhyw gytundeb tenantiaeth yn drech na’r hawliau hynny. Os yw’ch cytundeb tenantiaeth yn cynnwys cymalau annheg, er enghraifft os yw’r landlord yn dweud eich bod yn gyfrifol am atgyweirio strwythur yr adeilad neu fod ganddo hawl i ddod i’r eiddo’n ddi-rybudd ar unrhyw adeg, nid yw’r telerau hyn yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Os yw’r landlord yn ceisio gweithredu ar sail y cymalau hyn, cysylltwch ag adran Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol i gael cyngor. Gallwch hefyd gael mwy o gyngor gan y Swyddfa Masanchu Teg (OFT).