Tenantiaethau Cymdeithasau Tai

Nid yw holl denantiaid y cymdeithasau tai’n cael eu diogelu i’r un graddau rhag iddyn nhw gael eu troi allan. Bydd y math o denantiaeth sydd gennych yn effeithio ar lawer o’ch hawliau, gan gynnwys sut a phryd y gall y gymdeithas dai eich troi chi allan, p’un a allwch drosglwyddo’ch tenantiaeth i unrhyw un arall a ph’un a oes gennych hawl i brynu’r eiddo.

Mae cymdeithasau tai’n darparu tenantiaethau diogel, tenantiaethau sicr, tenantiaethau sicr byrddaliol a thenantiaethau cychwynnol neu gallant wneud cais i’r llysoedd i israddio’ch tenantiaeth. Fe ddylen nhw roi cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig i chi, sy’n nodi’n glir pa fath o denantiaeth sydd gennych ac sy’n amlinellu’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau.

I gael mwy o wybodaeth am eich tenantiaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch cymdeithas dai.

Tenantiaethau Rheoleiddiedig

Mae gan denantiaid rheoleiddiedig hawliau cryfach yn erbyn cael eu troi allan na’r rhan fwyaf o’r tenantiaid preifat eraill. Rydych yn debygol o fod yn denant rheoleiddiedig.

  • os bu i chi symud i mewn cyn 15fed Ionawr 1989 ac
  • os ydych yn talu rhent i landlord preifat ac
  • os oes gennych reolaeth dros eich cartref sy’n golygu na all eich landlord na phobl eraill ddod i fel y mynnant ac
  • os nad yw’r landlord yn byw yn yr un adeilad â chi ac
  • os nad ydych yn cael prydau bwyd neu wasanaethau eraill fel gwasanaeth glanhau

Mae gan denant rheoleiddiedig hawl i dalu ‘rhent teg’ sy’n cael ei bennu gan swyddog rhent neu bwyllgor asesu rhent. Mae’n pennu’r uchafswm y gall eich landlord ei godi. Fel arfer, dim ond unwaith bob dwy flynedd y gellir cynyddu’r rhent.

Mae gan denant rheoleiddiedig hawliau cryf yn erbyn cael ei droi allan. Dim ond yn ystod cyfnod statudol eich tenantiaeth y gall y landlord eich troi chi allan ac nid yn ystod cyfnod contractiol. Hefyd, rhaid i’r sail dros eich troi chi allan fod yn benodol iawn. Gan mai ychydig iawn o’r tenantiaethau hyn sydd ar gael, byddai’n syniad i chi gael cyngor cyfreithiol os ydych yn credu bod gennych denantiaeth reoleiddiedig.

Preswylwyr ag amddiffyniad sylfaenol

Rydych yn debygol o fod yn breswylydd ag amddiffyniad sylfaenol:

  • os ydych yn byw yn yr un adeilad â’ch landlord ond nad ydych yn rhannu’r un ystafelloedd byw â’ch landlord neu
  • os ydych yn fyfyriwr mewn neuadd breswyl neu
  • os ydych yn talu rhent isel iawn neu rent uchel iawn

Gall fod yn anodd gwybod a ydych yn breswylydd ag amddiffyniad sylfaenol. Gofynnwch am gyngor os nad ydych yn sicr o’ch statws. Os ydych yn breswylydd o’r fath, ychydig iawn o hawliau tenantiaeth sydd gennych. Mae’n bwysig cofio pa mor hawdd yw hi i’r landlord eich troi chi allan. Am y rheswm hwn, gall fod yn anodd iawn i chi ofyn i’r landlord wneud unrhyw atgyweiriadau neu herio unrhyw gynnydd i’r rhent.

Troi Allan

Y cyfan y mae’n rhaid i’ch landlord ei wneud yw rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi ei fod am i chi adael. Bydd hyd y rhybudd yn dibynnu ar ba mor aml rydych chi’n talu rhent, ond fel arfer ni fydd yn llai na phedair wythnos. Ar yr amod ei fod wedi rhoi’r rhybudd yn gywir, gall y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn ildio meddiant a bydd rhaid i chi adael ar y dyddiad a bennir gan y llys. Os oes gennych gytundeb am gyfnod penodol, nid oes rhaid i’ch landlord roi rhybudd i chi a gall ofyn ar unwaith i’r llys am orchymyn ildio meddiant.

Preswylwyr Eithriedig

Rydych yn debygol o fod yn breswylydd eithriedig:

  • os ydych yn rhannu llety â’ch landlord neu
  • os ydych yn byw yn yr un adeilad â’ch landlord ac yn rhannu llety ag aelod o deulu’ch landlord neu
  • os ydych yn byw yn eich llety ar wyliau neu
  • os nad ydych yn talu unrhyw rent am eich llety

Gall fod yn anodd i chi wybod a ydych yn breswylydd eithriedig. Gofynnwch am gyngor os nad ydych yn sicr o’ch statws. Os ydych yn breswylydd eithriedig, ychydig iawn o hawliau tenantiaeth sydd gennych chi.

Fel preswylydd eithriedig, dim ond hawl i aros nes i’ch landlord ofyn i chi adael neu hyd nes i’r cyfnod a nodir yn eich cytundeb ysgrifenedig ddod i ben, sydd gennych. Gall eich landlord eich troi chi allan drwy roi rhybudd rhesymol i chi (ac fe all roi’r rhybudd hwnnw ar lafar). Nid oes angen gorchymyn llys arno. Fel arfer, ystyr rhybudd rhesymol yw un cyfnod rhent. Felly, os ydych yn talu rhent bob wythnos, dim ond wythnos o rybudd fydd rhybudd rhesymol.