Mae cynlluniau blaendal tenantiaeth yn sicrhau bod yr arian sy’n cael ei dalu gan denantiaid (ar ffurf blaendal) yn cael ei gadw’n ddiogel.

Mae’r cynlluniau hyn yn gwarantu y bydd tenantiaid yn cael eu blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth os ydynt wedi bodloni telerau’r cytundeb tenantiaeth ac os nad ydynt wedi difrodi’r eiddo. Os yw landlord wedi gosod eiddo ar sail tenantiaeth byrddaliol sicr a ddechreuodd ar ôl 6ed Ebrill 2007, mae’n rhaid iddo ddiogelu blaendal y tenant(iaid) gan ddefnyddio cynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwywyd gan y llywodraeth (gweler y dolenni a ddarparwyd). Os yw unrhyw denantiaeth a ddechreuodd cyn 6ed Ebrill 2007 wedi cael ei hadnewyddu drwy gyfrwng cytundeb tenantiaeth newydd ers y dyddiad hwnnw, mae angen i’r landlord gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a diogelu swm y blaendal gwreiddiol.

Os nad yw’r amodau hyn yn berthnasol – er enghraifft, oherwydd eich bod yn byw yn yr eiddo gyda’ch landlord – nid oes rhaid diogelu’r blaendal. Serch hynny, mae’n dal i fod yn beth da i’w wneud.

Os yw’r amodau uchod yn berthnasol, rhaid i’r landlord neu’r asiant ddefnyddio un o’r tri chynllun diogelu blaendal cymeradwy i ddiogelu blaendal y tenant(iaid). Os byddant yn defnyddio unrhyw gynllun arall, ni fydd y gyfraith yn diogelu’r blaendal. Dyma’r cynlluniau cymeradwy:

Gofynnwch i’ch landlord am fanylion y cynllun y mae’n ei ddefnyddio. Dylai’ch landlord roi manylion i chi cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r blaendal gael ei dalu, gan gynnwys:

  • Manylion cyswllt y landlord neu’r asiant gosod tai
  • Manylion cyswllt y cynllun diogelu blaendal perthnasol
  • Yr eitemau neu’r gwasanaethau y mae’r blaendal yn berthnasol iddynt
  • Yr amgylchiadau lle bydd modd i’r landlord gadw rhan o’r blaendal neu’r blaendal cyfan
  • Gwybodaeth am sut i wneud cais i gael y blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth
  • Manylion am yr hyn y gall y tenantiaid ei wneud os bydd anghydfod yn codi ynghylch y blaendal

Os nad yw’ch blaendal yn cael ei ddiogelu gan un o’r tri chynllun cymeradwy, gallwch ddwyn eich landlord gerbron y llys sirol ac fe allech gael eich blaendal yn ôl, ynghyd â swm sy’n gyfwerth â thair gwaith cymaint â’ch blaendal.

Mae’r cynlluniau hyn:

  • yn annog landlordiaid a thenantiaid i lunio cytundebau tenantiaeth clir
  • yn darparu gwasanaeth am ddim i ddatrys unrhyw anghydfod

Cynllun Bondiau Ceredigion

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darparu blaendal, neu fond, mae cynllun ar waith yng Ngheredigion i dalu’r blaendal, neu’r bond, ar ffurf gwarant i’r landlord. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Prawf Dyfed a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a thrwy nawdd a chymorth gan y gymuned leol. Cymdeithas Gofal Ceredigion sy’n gweithredu ac yn rheoli’r cynllun ac mae ganddi swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberteifi.