Bydd eich landlord yn rhoi contract meddiannaeth i chi.

Mae 2 fath o gontract meddiannaeth:

  • Contract diogel: mae hwn yn disodli tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a thenantiaethau sicr a roddwyd gan gymdeithasau tai sy'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
  • Contract safonol: yn cael ei ddefnyddio yn y sector rhentu preifat yn bennaf. Gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio hefyd mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, contract safonol â chymorth ar gyfer llety â chymorth).

Bydd yn rhaid i'ch contract meddiannaeth gyda'ch landlord gael ei bennu mewn datganiad ysgrifenedig. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn disodli eich tenantiaeth neu gytundeb trwydded. Rhaid iddo gynnwys holl delerau'r contract. Y gwahanol fathau o delerau yw:

  • Materion Allweddol: er enghraifft, enwau'r landlord a deiliad y contract a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
  • Telerau Sylfaenol: yn cwmpasu agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys sut mae'r landlord yn cael meddiant a rhwymedigaethau'r landlord o ran atgyweiriadau
  • Telerau Atodol: yn delio â'r materion mwy ymarferol o ddydd i ddydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth. Er enghraifft, y gofyniad i hysbysu'r landlord os yw'r eiddo yn mynd i gael ei adael yn wag am 4 wythnos neu fwy.
  • Telerau Ychwanegol: yn rhoi sylw i unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes

Gellir rhoi contractau ar ffurf copi caled neu'n electronig (os yw deiliad y contract yn cytuno i gael copi electronig). Mae llofnodi'r contract yn arfer da gan ei fod yn cadarnhau eich bod yn hapus gyda phopeth y mae'n ei ddweud.

Mae mwy o sicrwydd i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat o dan y gyfraith newydd:

  • ar yr amod nad ydych yn torri un o delerau'r contract, rhaid i'ch landlord roi o leiaf 6 mis o rybudd (Hysbysiad Adran 173 yn y Ddeddf) i derfynu’r contract, a elwir yn aml yn hysbysiad ‘heb fai’ (wedi’i gynyddu o 2 fis o rybudd).
  • ni ellir rhoi unrhyw hysbysiadau heb fai tan 6 mis ar ôl i chi symud i mewn (dyddiad meddiannu'r contract)
  • os nad yw'ch landlord wedi gweithredu ar yr hysbysiad heb fai (felly nid yw wedi ei ddefnyddio i geisio cael meddiant o'r eiddo), ni all roi un arall am 6 mis
  • os oes contract cyfnod penodol gennych (sy'n nodi am faint mae’r contract yn para) fel rheol ni all eich landlord roi hysbysiad i derfynu’ch contract. Os na fyddwch yn gadael, bydd y contract cyfnod penodol fel arfer yn newid i fod yr hyn a elwir yn gontract safonol cyfnodol ar ddiwedd y cyfnod penodol, a bydd yn rhaid i'ch landlord gyflwyno hysbysiad heb fai o 6 mis i’w derfynu
  • ni all landlordiaid gynnwys cymal terfynu (i adennill meddiant) mewn contractau safonol cyfnod penodol o lai na 2 flynedd. Os yw'r cyfnod penodol yn 2 flynedd neu fwy, ni all eich landlord roi rhybudd i chi tan o leiaf mis 18 o'r contract cyfnod penodol, a bydd yn rhaid iddo roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi.

Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad heb fai i chi oherwydd eich bod wedi cwyno bod eich cartref mewn cyflwr gwael, ni fydd yn rhaid i'r Llys roi meddiant i'r landlord. Felly gallwch geisio gwaith atgyweirio heb boeni y bydd eich cartref mewn perygl.

Gellir ychwanegu neu ddileu deiliaid contract o gontractau meddiannaeth heb fod angen terfynu un contract a dechrau un arall. Bydd hyn yn gwneud rheoli contractau ar y cyd yn haws ac yn helpu pobl sy'n profi cam-drin domestig trwy allu targedu'r sawl sy'n eu cam-drin ar gyfer eu troi allan.

I gael arweiniad pellach, cyfeiriwch at: Contractau meddiannaeth safonol: canllawiau [HTML] | LLYW.CYMRU