Cymorth ar ffurf grant o hyd at £36,000 (sy’n dibynnu ar brawf modd) i dalu am offer ac addasiadau anabledd er mwyn galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref.

Beth mae hwn yn ei gynnwys?

Mae Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gael ar gyfer gwaith mawr i addasu eiddo i fod yn addas i anghenion penodol unigolyn anabl sy’n byw yn yr eiddo.  Rhoddir cymorth er mwyn:

  • Hwyluso mynediad
  • Cynnig cyfleusterau addas
  • Sicrhau bod adeilad yn ddiogel i’w ddefnyddio
  • Gwneud gwelliannau amgylcheddol er mwyn galluogi’r unigolyn anabl i fyw yn eu cartref yn ddiogel.

Mae gwaith mawr yn cynnwys y canlynol (ond heb ei gyfyngu i hyn):

  • Estyniad i’r eiddo gwreiddiol
  • Lifftiau allanol
  • Gwaith sy’n cynnwys gwaith strwythurol ar yr eiddo gan gynnwys gofyniad ar gyfer Rheoliadau Adeiladu a Chynllunio

Mae’r uchod yn rhai enghreifftiau yn unig o’r hyn y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.

Bydd angen i argymhellion Therapydd Galwedigaethol gyd-fynd â phob cais.  Dylech gysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol yn y lle cyntaf, er mwyn iddynt allu cynnal asesiad llawn o’ch anghenion.  Ffoniwch 01545 574000 i wneud ymholiadau.

Pwy fydd yn gymwys?

Bydd unrhyw un y bydd Therapydd Galwedigaethol yn barnu bod gofyn iddynt gael gwaith cymwys, yn gallu gwneud cais am y grant.  Gallwch fod yn denant neu’n berchennog eiddo, ond os ydych chi’n denant, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y landlord i gyflawni’r gwaith.

Rhaid bod tenantiaid a pherchnogion yn bwriadu byw yn yr eiddo trwy gydol cyfnod yr amodau grant (10 mlynedd) ac mae’n rhaid i landlordiaid gytuno y gall y tenant aros, yn ogystal â chytuno i’r gwaith.

Cynhelir prawf modd ar gyfer y grant, sy’n golygu y bydd yn rhaid i ni ystyried eich sefyllfa ariannol.  Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol y cynhelir prawf modd ar eu cyfer, megis Cymhorthdal Incwm neu’r Credyd Pensiwn Gwarantedig, ni fydd yn rhaid cynnal prawf modd llawn o’ch sefyllfa, a byddwch yn cael grant llawn (yn unol ag uchafswm y grant).

Ni chynhelir prawf modd ar gyfer grantiau i blant.

Efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr eraill dalu cyfraniad tuag at y gwaith, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau.  Gallwch drefnu bod prawf modd amodol yn cael ei gynnal, a fydd yn rhoi syniad i chi o’ch cyfraniad tebygol cyn y cynhelir unrhyw asesiadau, os ydych chi’n gofidio am y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu efallai.

Faint fyddaf yn ei gael?

Uchafswm y grant a roddir fydd £36,000.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith, costau offer, taw os bydd yn berthnasol, a’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r gwaith (megis ffioedd gweinyddu, trefnu neu ffioedd asiant).  Pennir swm y grant gan yr adran, a bydd yn dibynnu ar ddyfynbrisiau a gaiff eu sicrhau, yn ogystal ag unrhyw ffioedd y bydd angen i chi eu talu efallai.  Bydd angen i chi aros am hysbysiad o’r dyfarniad grant cyn cychwyn ar unrhyw waith.  Telir am y gwaith ar ôl cael Anfoneb, ac fel arfer, anfonir y taliad i’r contractwr yn syth, ar ôl cynnal archwiliad.

Sut fyddaf yn trefnu’r gwaith?

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio er mwyn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant.  Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo er mwyn paratoi cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau yn ôl yr angen, gan sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, gan ddelio ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.  Byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais a delio â’r wybodaeth ariannol y bydd angen i chi ei darparu efallai.

Amodau’r grant, gan gynnwys ad-dalu

  • Cyfnod yr amodau grant yw 10 mlynedd ar ôl cwblhau’r grant
  • Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu hunig fan preswylio neu eu prif fan preswylio yn ystod cyfnod yr amodau grant neu am gyfnod byrrach ag y bydd eu hiechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn caniatáu
  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis o sicrhau’r gymeradwyaeth, oni bai yr awdurdodir fel arall
  • Mae’r Prawf Statudol o Adnoddau Ariannol fel y’i cedwir ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (HRGR 1996) yn berthnasol
  • Gosodir Pridiant Tir Lleol ar yr eiddo ar gyfer cyfnod yr amodau grant
  • Bydd gofyn ad-dalu symiau grant dros £5000 os torrir amodau grant. (Bydd amgylchiadau eithriedig yn berthnasol)
  • Rhoddir ôl-daliad am waith, ar ôl cael Anfoneb, ac ar ôl archwilio’r gwaith

Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.

Os bwriedir gwaredu’r eiddo yn ystod cyfnod yr amodau grant, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried yr amgylchiadau wrth waredu (neu werthu) mewn perthynas â swm y grant i’w ad-dalu.

Ystyrir yr amgylchiadau canlynol;

  • Byddai ad-dalu yn arwain at galedi ariannol dianghenraid
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les derbynnydd y grant
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les aelod o deulu y meddiannydd anabl
  • Os gwaredir yr eiddo er mwyn galluogi derbynnydd y grant i fyw gyda, neu gerllaw, unrhyw unigolyn sy’n anabl neu’n eiddil ac y mae angen gofal arnynt, y mae derbynnydd y grant yn bwriadu ei ddarparu, neu lle y mae’r unigolyn y mae derbynnydd y grant wedi symud i fyw gydag ef neu hi yn bwriadu darparu gofal y mae angen i dderbynnydd y grant ei gael oherwydd anabledd neu eiddilwch