Swm ychwanegol o grant dewisol i’r grant cyfleusterau i’r anabl gorfodol o hyd at £15,000 (gyda phrawf modd) i dalu am addasiadau i’r anabl ac offer er mwyn galluogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref.

Pa waith y mae hwn yn ei gynnwys?

Mae Grant Atodol (Ychwanegol) Addasiadau i’r Anabl yn gronfa ddewisol y gellir ei defnyddio pan na fydd dyfarnu Grant Cyfleusterau i’r Anabl Gorfodol yn talu costau cyfan gwbl y gwaith gan bod y costau yn uwch nag uchafswm y grant (sef £36,000).

Mae’r cyllid hwn ar gael mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, ac ar sail penderfyniad a wneir gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol wrth ymgynghori gyda’r Aelod Cabinet.

Mae’r gwaith sy’n gymwys yr un fath â’r gwaith Grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol a’r unig bryd y dyfarnir y grant hwn yw pan fydd cais llwyddiannus wedi cael ei wneud am y hefyd.

Pwy fydd yn gymwys?

Gellir ystyried ymgeiswyr y dyfarnwyd Grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol iddynt, nad yw’n talu cost lawn y gwaith y cytunwyd arno, ar gyfer y swm atodol ychwanegol, felly bydd yr un meini prawf yn berthnasol.

Gwneir argymhellion gan y swyddog priodol ar ôl cynnal trafodaethau llawn am yr achos a chaiff y penderfyniad ei wneud gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol wrth iddo ymgynghori gyda’r Aelodau Cabinet.

Ni chynhelir prawf modd ar gyfer y grant hwn, oherwydd y bydd hyn eisoes wedi cael ei ystyried yn y Grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol.

Faint fydd ar gael?

Yr uchafswm fydd ar gael yw £15,000, gyda’r disgresiwn i godi hwn mewn amgylchiadau eithriadol.

Sut fyddaf yn trefnu’r gwaith?

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio er mwyn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant.  Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo er mwyn paratoi cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau yn ôl yr angen, gan sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, gan ddelio ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.  Byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais a delio â’r wybodaeth ariannol y bydd angen i chi ei darparu efallai.

Amodau’r grant, gan gynnwys ad-dalu

  • Bydd yr amodau grant yn parhau i fod mewn grym trwy gydol oes y grant (nes iddo gael ei ad-dalu)
  • Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu hunig fan preswylio neu eu prif fan preswylio yn ystod cyfnod yr amodau grant neu am gyfnod byrrach ag y bydd eu hiechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn caniatáu
  • Bydd symiau grant yn destun tâl y Gofrestrfa Tir
  • Bydd gofyn ad-dalu’r grant os gwaredir neu os gwerthir yr eiddo, neu os torrir amodau’r grant
  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis o sicrhau’r gymeradwyaeth, oni bai yr awdurdodir fel arall
  • Rhoddir ôl-daliad am waith, ar ôl cael Anfoneb, ac ar ôl archwilio’r gwaith

Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.

Os bwriedir gwaredu’r eiddo yn ystod cyfnod yr amodau grant, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried yr amgylchiadau wrth waredu (neu werthu) mewn perthynas â swm y grant i’w ad-dalu.

Ystyrir yr amgylchiadau canlynol;

  • Byddai ad-dalu yn arwain at galedi ariannol dianghenraid
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les derbynnydd y grant
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les aelod o deulu y meddiannydd anabl
  • Os gwaredir yr eiddo er mwyn galluogi derbynnydd y grant i fyw gyda, neu gerllaw, unrhyw unigolyn sy’n anabl neu’n eiddil ac y mae angen gofal arnynt, y mae derbynnydd y grant yn bwriadu ei ddarparu, neu lle y mae’r unigolyn y mae derbynnydd y grant wedi symud i fyw gydag ef neu hi yn bwriadu darparu gofal y mae angen i dderbynnydd y grant ei gael oherwydd anabledd neu eiddilwch