Ceir tybiaeth yn erbyn neilltuo Grant Cyfleusterau i’r Anabl lle nad yw’r eiddo yn addas i anghenion yr ymgeisydd yn y tymor hir.

Er mwyn cynorthwyo’r unigolyn anabl i symud i eiddo mwy addas lle y mae’n fwy cost-effeithiol nag addasu’r cartref presennol, ystyrir talu costau cyfreithiol a symud yn ychwanegol i gostau addasu trwy gyfrwng Grant Adleoli.  Uchafswm y grant a roddir yw £10,000.

Pa waith y mae hwn yn ei gynnwys?

Weithiau, efallai y bydd Therapydd Galwedigaethol yn nodi na ellir bodloni anghenion perchennog cartref yn eu cartref presennol.  Efallai na fydd addasiadau mewn eiddo penodol yn ymarferol a chaiff y penderfyniad hwn ei wneud ar y cyd â’r gwasanaeth addasiadau i’r anabl.

Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd cleient yn gymwys i gael cymorth ariannol i symud o’u cartref presennol i eiddo mwy addas, a gaiff ei addasu i fodloni eu hanghenion, neu pan fydd addasiadau yn ymarferol.

Gellir cynnig cymorth dewisol er mwyn:

  • Ariannu gwaith trwsio hanfodol neu waith addasu er mwyn caniatáu i’r adleoli ddigwydd, neu i ariannu gwaith o’r fath yn rhannol
  • Ariannu’r gwahaniaeth rhwng y swm a gaiff ei sicrhau wrth werthu eiddo presennol yr unigolyn anabl a phris prynu yr eiddo y byddant yn symud iddo, neu i ariannu hyn yn rhannol
  • Ariannu’r costau ategol sy’n ymwneud â’r gwerthu (e.e. ffioedd Cyfreithiwr, Symud a Storio)
  • Cysylltiadau cyfleustodau hanfodol
  • Blaendal ar gyfer eiddo rhent preifat

Cynhelir asesiad o’r eiddo newydd gan y Therapydd Galwedigaethol er mwyn pennu a fyddai modd bodloni anghenion byw dyddiol yr unigolyn anabl yn yr eiddo hwnnw.  Mewn cysylltiad â swyddog grant, gwneir penderfyniad am gost unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol yn yr eiddo newydd.  Trowch hefyd at y dudalen Grant Cyfleusterau i’r Anabl – Gorfodol.

Dylech gysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol yn y lle cyntaf, er mwyn iddynt allu cynnal asesiad llawn o’ch anghenion.  Ffoniwch 01545 574000 i wneud ymholiadau.

Pwy fydd yn gymwys?

Ar gyfer perchen-feddianwyr, cynigir Grant Adleoli gyda DFG, a fydd yn destun yr un meini prawf cymhwystra, prawf modd ac amodau ar ôl cwblhau ag sy’n berthnasol i’r grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol/dewisol.

Wrth bennu lefel y cymorth, ystyrir dichonolrwydd a chost addasu’r eiddo presennol ac arfaethedig, a gwerth pob eiddo ar y farchnad.

Byddai’r unigolyn anabl a’u cymar yn destun prawf o’u hadnoddau ariannol er mwyn pennu eu cyfraniad ariannol.

Mewn achosion lle y mae’r unigolyn anabl yn blentyn, bydd y rhieni neu’r gwarcheidwad y bydd ganddynt fudd perchennog yn yr eiddo yr adleolir iddo, yn destun y cyfrifiad prawf adnoddau.

Faint fyddaf yn ei gael?

Uchafswm y grant y bydd modd ei gael yw £10,000.  Mae hwn yn cynnwys unrhyw waith, costau offer, taw os yw’n berthnasol, a’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r gwaith (megis ffioedd gweinyddu, trefnu neu ffioedd asiant).

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau adleoli hefyd fel y nodir uchod.

Pennir swm y grant gan yr adran, a bydd yn dibynnu ar ddyfynbrisiau a gaiff eu sicrhau, yn ogystal ag unrhyw ffioedd y bydd angen i chi eu talu efallai.  Bydd angen i chi aros am hysbysiad o’r dyfarniad grant cyn cychwyn ar unrhyw waith.  Telir am y gwaith ar ôl cael Anfoneb, ac fel arfer, anfonir y taliad i’r contractwr yn syth, ar ôl cynnal archwiliad.

Sut fyddaf yn trefnu’r grant / gwaith?

Ni fydd yr Awdurdod Lleol yn eich cynorthwyo i sicrhau eiddo newydd i symud iddo.  Ar ôl nodi eiddo, fodd bynnag, dylech gysylltu â’ch swyddog grantiau a’ch therapydd galwedigaethol i drafod y ffordd ymlaen.

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio er mwyn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant, ar ôl nodi’r llety newydd.  Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo newydd er mwyn paratoi cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau yn ôl yr angen, gan sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, gan ddelio ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.  Byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais a delio â’r wybodaeth ariannol y bydd angen i chi ei darparu efallai.  Efallai bod swyddog y gwasanaeth goruchwylio wedi ymweld â’ch cartref blaenorol yn barod i drafod a yw addasiadau yn ymarferol, gan gostio cynllun.

Amodau’r grant, gan gynnwys ad-dalu

  • Cyfnod yr amodau grant yw 10 mlynedd
  • Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu hunig fan preswylio neu eu prif fan preswylio yn ystod cyfnod yr amodau grant neu am gyfnod byrrach ag y bydd eu hiechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn caniatáu
  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis o sicrhau’r gymeradwyaeth, oni bai yr awdurdodir fel arall
  • Mae’r Prawf Statudol o Adnoddau Ariannol fel y’i cedwir ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (HRGR 1996) yn berthnasol
  • Gosodir Pridiant Tir Lleol ar yr eiddo ar gyfer cyfnod yr amodau grant

Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.

Os bwriedir gwaredu’r eiddo yn ystod cyfnod yr amodau grant, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried yr amgylchiadau wrth waredu (neu werthu) mewn perthynas â swm y grant i’w ad-dalu.

Ystyrir yr amgylchiadau canlynol:

  • Byddai ad-dalu yn arwain at galedi ariannol dianghenraid
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les derbynnydd y grant
  • Gwaredwyd yr eiddo am resymau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gorfforol neu les aelod o deulu y meddiannydd anabl
  • Os gwaredir yr eiddo er mwyn galluogi derbynnydd y grant i fyw gyda, neu gerllaw, unrhyw unigolyn sy’n anabl neu’n eiddil ac y mae angen gofal arnynt, y mae derbynnydd y grant yn bwriadu ei ddarparu, neu lle y mae’r unigolyn y mae derbynnydd y grant wedi symud i fyw gydag ef neu hi yn bwriadu darparu gofal y mae angen i dderbynnydd y grant ei gael oherwydd anabledd neu eiddilwch