Grant o hyd at £800 (heb gynnal prawf modd) neu £5,000 a taw a ffioedd, am addasiadau neu offer er mwyn galluogi i unigolyn anabl neu oedrannus i gynnal eu hannibyniaeth.

Pa waith y mae hwn yn ei gynnwys?

Mae’r grant hwn ar gyfer addasiadau bychain ac nid i’w ddefnyddio fel cyfraniad tuag at waith mwy helaeth lle y byddai Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn fwy priodol.

Y gwaith sy’n gymwys yw addasiadau llai ac offer sy’n ofynnol er mwyn galluogi i unigolyn gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref, er enghraifft;

  • Grisiau, mân rampiau
  • Canllawiau cydio neu ganllawiau
  • Lifft bath
  • Tapiau lifer
  • Mae’r uchod yn rhai enghreifftiau yn unig o’r hyn y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.

Bydd angen cyflwyno argymhellion gan Therapydd Galwedigaethol, Gweithiwr Gofal Cymunedol neu Aseswr yr Ymddiriedir Ynddynt gyda phob cais.  Os ydych chi’n teimlo bod angen gwaith helaeth arnoch, cysylltwch â Therapydd Galwedigaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y lle cyntaf.

Gellir cysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol ar 01545 574000.  Mae Aseswyr yr Ymddiriedir Ynddynt ar gael trwy gyfrwng Gofal a Thrwsio ar 01970 639920 neu trwy’r adran grantiau ar 01545 572185.

Pwy fydd yn gymwys?

Mae Grantiau Diogel, Cynnes a Sicr yn grantiau na chynhelir prawf modd ar eu cyfer ac sy’n werth hyd at £5,000 (a TAW a ffioedd) ar gyfer cleientiaid y mae gofyn iddynt gael gofal lliniarol neu eu rhyddhau o’r ysbyty yn gyflym, ac ar gyfer y rhai dros 65 oed.

Felly, bydd y bobl ganlynol yn gymwys i wneud cais heb orfod cynnal unrhyw brawf o’u hadnoddau ariannol:

  • Perchen-feddianwyr a thenantiaid dros 65 oed,

Neu

  • Gleientiaid y mae angen iddynt gael gofal lliniarol a/neu er mwyn gallu eu rhyddhau yn gynnar o’r ysbyty.

Cynhelir archwiliad i weld a oes unrhyw grantiau perthnasol wedi cael eu talu yn flaenorol, er mwyn sicrhau na roddir dros £5,000 a ffioedd a TAW yn ystod unrhyw gyfnod o dair blynedd.  Ni all yr Awdurdod Lleol dalu am yr un addasiadau/gwaith ddwywaith.

Faint fyddaf yn ei gael?

Ceir hyd at £800 am fân addasiadau/addasiadau carlam y mae gofyn eu gwneud ar gyfer gofal lliniarol, sydd ar gael i berchnogion a thenantiaid, heb gyfyngiad o ran oedran neu brawf modd.

Uchafswm y grant ar gyfer ceisiadau eraill yw £5,000 a taw a ffioedd cysylltiedig (megis ffioedd asiant neu drefnu).

Pennir swm y grant gan yr adran, a bydd yn dibynnu ar ddyfynbrisiau a gaiff eu sicrhau, yn ogystal ag unrhyw ffioedd y bydd angen i chi eu talu efallai.  Bydd angen i chi aros am hysbysiad o’r dyfarniad grant cyn cychwyn ar unrhyw waith.  Telir am y gwaith ar ôl cael Anfoneb, ac fel arfer, anfonir y taliad i’r contractwr yn syth, ar ôl cynnal archwiliad.

Sut fyddaf yn trefnu’r gwaith?

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio er mwyn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant.  Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo er mwyn paratoi cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau yn ôl yr angen, gan sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, gan ddelio ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.  Byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais a delio â’r wybodaeth ariannol y bydd angen i chi ei darparu efallai.

Amodau grant, gan gynnwys ad-dalu

  • Cyfnod yr amodau grant yw 5 mlynedd
  • Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu hunig fan preswylio neu eu prif fan preswylio yn ystod cyfnod yr amodau grant neu am gyfnod byrrach ag y bydd eu hiechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn caniatáu
  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis o sicrhau’r gymeradwyaeth, oni bai yr awdurdodir fel arall
  • Rhoddir ôl-daliad am waith, ar ôl cael Anfoneb, ac ar ôl archwilio’r gwaith
  • Ni fydd unrhyw amodau ad-dalu ar y grantiau hyn.

Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.