Mae mesurau dros dro newydd yn ymwneud â thai wedi'u cyflwyno gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Rhestrir crynodeb o'r rhain isod.
- Rhaid i landlordiaid nawr roi gorchymyn troi allan gyda 6 mis o rybudd yn rhan fwyaf yr achosion.
- Bydd llysoedd yn ailgychwyn achosion gorchmynion adennill meddiant o 20 Medi
- Mae parciau gwyliau wedi ailagor
- Nid yw dyletswyddau landlord ar gyfer atgyweiriadau, tystysgrifau diogelwch ac ati wedi newid. Byddai'r gwasanaeth tai yn defnyddio dull pragmatig sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran gorfodi, fodd bynnag, yn wyneb yr amgylchiadau
- Nid yw deddfau sy’n ymwneud ag aflonyddu a throi allan yn anghyfreithlon wedi newid
- Rhaid i denantiaid barhau i dalu rhent. Efallai y byddwch yn gymwys i fanteisio ar y Benthyciad Arbed Tenantiaeth, neu gallwch drafod unrhyw anawsterau gyda Chyngor ar bopeth Cymru dan eu Cynllun Rhybudd Cynnar.
- Caniateir symud tŷ oni bai bod cyfyngiadau lleol symud mewn grym
Yn dilyn cyngor y Llywodraeth ar batrymau gwaith mae'r Gwasanaeth Tai wedi gwneud rhai addasiadau i'n ffordd o weithio gan y gofynnwyd i ni leihau cyswllt â phobl.
- Gellir cysylltu â ni o hyd trwy tai@ceredigion.gov.uk ac ar y rhifau arferol trwy'r ganolfan gyswllt, er efallai y bydd angen i chi aros i ni eich galw yn ôl yn lle cael eich rhoi yn syth drwodd.
- Nid yw'n swyddfeydd ar agor
- Mae ein hymweliadau arferol/ymweliadau sydd wedi'u rhaglennu, fel y rhai a wnawn ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, wedi'u gohirio.
- Byddwn yn ceisio gwneud y trefniadau gorau ar gyfer unrhyw waith brys neu waith argyfwng mewn perthynas ag addasiadau/rhyddhau claf o'r ysbyty
- Os byddwch wedi cael hysbysiad cymryd meddiant/ troi allan, cysylltwch â'r tîm Dewisiadau Tai i drafod eich dewisiadau
- Ymdrinnir ag opsiynau tai/cyflwyniadau’r digartref trwy gyfweliad dros y ffôn gan fod y swyddfeydd ar gau i'r cyhoedd
- Brysbennir cwynion am amodau eiddo ac fe'u rhoddir mewn trefn yn ôl blaenoriaeth ar gyfer ymweliadau pan fydd hynny'n ddiogel. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth ar ffurf lluniau neu fideo yn y cyfamser.
- Bydd camau gorfodi yn gymesur â'r risg sy'n gysylltiedig â'r problemau, a byddwn yn ymwybodol o'r elfennau ymarferol cyfredol ynghylch gorchymyn contractwyr a mynediad i gartrefi
- Os byddwn yn cael ceisiadau brys, cynhelir asesiad risg cyn cynnal unrhyw ymweliad neu archwiliad. Byddwn yn dilyn mesurau da o ran hylendid a chadw pellter. Gallai cais brys fod yn ymwneud â risg y bydd rhywun yn dioddef anaf neu er mwyn atal achos troi allan anghyfreithlon.
Cysylltwch â ni ar 01545 574000 neu tai@ceredigion.gov.uk