Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Ceredigion yn cynnwys gweithwyr proffesiynol hyfforddedig o’r Awdurdod Lleol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Gwasanaethau Cymdeithasol, (partneriaid Statudol) a phartneriaid eraill gan gynnwys Iechyd (gan gynnwys CAMHS), Addysg, Camddefnyddio Alcohol a Chyffuriau, a Gyrfa Cymru.

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI neu TTI) yn gwasanaethu pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer pobl ifanc 10 i 17 oed (a darpariaeth ataliol tan 8 oed).

Gan fod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o wasanaethau, mae modd iddo ymateb i anghenion troseddwyr ifanc mewn ffordd gynhwysfawr. Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn asesu anghenion pob person ifanc gan ddefnyddio offeryn asesu cenedlaethol (ASSET) er mwyn nodi’r problemau penodol sy’n peri i’r person ifanc droseddu. Mae’n mesur risg y person ifanc o beri niwed difrifol i eraill ac i’w hun. Mae’r asesiad hwn yn cynnig ymyrraeth gymesur yn ôl anghenion penodol neu bersonol y person. Yn ogystal, bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn rheoli’r holl Orchmynion Llys a’r gweithgarwch penderfynu cyn mynd i’r llys, a bydd yn paratoi adroddiadau ar gyfer y Llys a Phaneli Cyfeirio. Bydd gofyn i’r person ifanc fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’i swyddog goruchwylio a fydd yn canolbwyntio ar y troseddu a’r ffactorau y allai leihau’r tebygolrwydd y bydd y person ifanc yn aildroseddu. Caiff cyfeiriadau eu gwneud i asiantaethau eraill pan fo hynny’n briodol.

Yn ogystal, mae y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu rhaglenni ataliol a gweithgareddau strwythuredig er mwyn dargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyflawnir y gwaith hwn trwy gyfrwng cytundeb gwirfoddol rhwng y person ifanc a’i riant/gofalwr.

Yn ogystal, bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ceisio cynorthwyo’r sawl gaiff ei niweidio gan weithredoedd pobl ifanc sy’n troseddu er mwyn ceisio gwella’r niwed a achoswyd. Gelwir y broses hon yn Gyfiawnder Adferol hefyd ac fe allai gynnwys gweithgarwch neu weithredu uniongyrchol gan y person ifanc i’r person a gafodd y niwed. Ar brydiau, gallai fod yn bosib ac yn ddymunol i’r person ifanc a droseddodd gyfarfod â’r unigolyn a niweidiwyd, er mwyn ymddiheuro mewn ffordd bersonol ac uniongyrchol am y niwed a achoswyd.

Manylion cyswllt:

Ffon: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk