Yn ystod cyfarfod o’r ffrwd waith Safonau Mewn Ysgolion ar 3 Ebrill, rhoddwyd y newyddion diweddaraf i’r Cynghorwyr ar y gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaeth cerddoriaeth yng Ngheredigion.

Dywedwyd wrth y Cynghorwyr bod Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn gwario £65 fesul disgybl ar hyn o bryd, sef y gwariant uchaf o blith holl gynghorau Cymru. Mae hyn bron i dair gwaith yn uwch na'r cyngor sydd â’r gwariant uchaf nesaf, sy'n gwario £22 fesul disgybl.

O dan y strwythur newydd, bydd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn parhau i fod yr un sydd wedi’i ariannu orau yng Nghymru. Er gwaethaf gostyngiad o 32.4%, bydd y gyllideb yn dal i fod yn fwy na dwbl y swm y mae'r cyngor sydd â’r gwariant uchaf nesaf yn talu fesul disgybl.

Bydd y cynllun gwasanaeth newydd yn cynnig cost safonol ar gyfer darpariaeth offerynnol a lleisiol, gan gynnwys gwersi, ensembles, cerddorfeydd a chorau. Mae hyn yn sicrhau tegwch i deuluoedd ar draws y sir. Mae'r modelau presennol yn caniatáu i ysgolion godi symiau gwahanol, gyda rhai ysgolion ddim yn codi tâl o gwbl a'r uchaf yn codi £175 y flwyddyn. Byddai'r model newydd yn caniatáu i'r gwasanaeth cerdd gadw'r holl incwm a gynhyrchir drwy godi tâl am ddarpariaeth.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Rydym yn ymfalchïo yn hanes hir a llwyddiannus Gwasanaeth Cerdd Ceredigion ac am ei weld yn ffynnu yn y dyfodol. Rydym am newid y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio er mwyn rhoi gwasanaeth tecach i'n disgyblion. Mae'r cynlluniau newydd yn gwarantu y bydd y gwersi’n para am amser penodol ac nid yw hyn yn digwydd o dan y model presennol.”

“Gyda'r toriadau enfawr i gyllidebau cynghorau, mae'n anochel y bydd angen i ni wneud arbedion pellach ym mhob gwasanaeth yn y Cyngor, gan gynnwys y Gwasanaeth Cerdd. Rydyn ni am wneud hyn mewn ffordd sy'n defnyddio'n cyllidebau'n effeithiol ac sy'n parhau i ddarparu gwasanaeth cerdd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.”

“Yn anffodus, mae gwybodaeth ffug wedi cael ei lledu ar-lein sydd wedi camarwain llawer o drigolion pryderus. Rwy'n falch bod y Cynghorwyr wedi cael cyfle i ddeall beth yw’r ffeithiau a’r sefyllfa go iawn.”

Roedd y ffrwd waith yn gyfle i esbonio i gynghorwyr pam fod y wybodaeth sydd wedi'i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn anghywir. Mae'r ffigwr a ddefnyddiwyd ar gyfryngau cymdeithasol, sef y byddai 68% o doriadau, yn anghywir gan ei fod ond yn ystyried y gostyngiad cyffredinol mewn cyllid craidd, heb gynnwys unrhyw incwm o'r gwersi cerddoriaeth. Mae'n anghywir awgrymu bod y Cyngor wedi ystyried arbedion cyfan o 68% ar unrhyw adeg.

Bydd y cynigion newydd ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd yn cael eu trafod ymhellach yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu ar 9 Mai. Mae'r cyfarfod hwn yn agored i'r cyhoedd.

04/04/2019