Bydd Ysgolion Cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen yn cau ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor ar 24 Mai, gwnaed penderfyniadau i gau pob ysgol yn unigol. Cyn gwneud y penderfyniadau, bu'r cynghorwyr yn trafod yn fanwl y gwrthwynebiadau a gafwyd a'r achos o blaid ac yn erbyn cau pob ysgol.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Ysgolion. Dywedodd, “Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob plentyn yng Ngheredigion yn parhau i gael yr addysg orau bosib. Mae hyn yn rhan o'n hailstrwythuro parhaus o ysgolion i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r amgylcheddau a'r profiadau dysgu gorau i'r disgyblion. Ar ôl wynebu blynyddoedd o doriadau difrifol i gyllidebau cynghorau gan lywodraeth ganolog, mae'n rhaid i ni barhau i ystyried y ffyrdd mwyaf effeithlon o ddarparu addysg tra'n cynnal y safonau uchaf.”

24/05/2019