Mae ysgolion ar hyd a lled Ceredigion wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Yn ychwanegol at yr ymarferion ar gyfer y cystadlaethau llwyfan, maent wedi cymryd rhan mewn amryw o brosiectau creadigol, gan gynnwys harddu eu hysgolion i groesawu’r brifwyl.

Darlun o gynefin

Un prosiect y mae holl ysgolion cynradd ac uwchradd y sir wedi cymryd rhan ynddo yw prosiect ‘Cynefin y Cardi’. Bu’r ysgolion yn dysgu am chwedlau neu arwyr enwog o’u hardal, gan ddarlunio hynny ar gyfer llyfr comig a phaneli mawr a fydd yn cael eu harddangos ym Mhentre’ Ceredigion ar y maes. Bydd cyfle hefyd i weld gwaith disgyblion Celf a Dylunio a Thechnoleg Ysgolion Uwchradd y Sir ym mhrif Babell Pentre’ Ceredigion, gydag amrywiaeth eang o waith i’w weld – o ddarnau dodrefn arloesol i arlunwaith ysbrydoledig.   

Perfformio

Mae’r ysgolion hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i gydweithio ag artisitiad, gan gynnwys Casi Wyn a Menna Rhys, i gyfansoddi cân newydd sbon. Bydd criw o ddisgyblion ledled ysgolion uwchradd Ceredigion yn perfformio’r gân newydd yn seremoni agoriadol y Babell Lên am 10am, 30 Gorffennaf 2022.

At hynny, bydd criw arall yn cystadlu yn Nhalwrn yr Ifanc ar gyfer ysgolion uwchradd Ceredigion yn y Babell Lên ar y dydd Sadwrn cyntaf, 30 Gorffennaf, am 4:30pm. Cafodd pob ysgol uwchradd yn y sir gyfle i gydweithio â beirdd preswyl yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod, a phenllanw hynny fydd y talwrn ar benwythnos cyntaf y brifwyl.

Yn ogystal mae dros 500 o ddisgyblion y sir wedi bod yn ymarfer dros yr wythnosau diwethaf er mwyn cymryd rhan yn rhai o Brif Seremonïau’r Eisteddfod. Bydd Côr Plant a Chôr Ieuenctid Ysgolion y Sir yn perfformio dan arweiniad Greg Vearey-Roberts yn Seremoni Y Fedal Ddrama a Seremoni Gwobr Daniel Owen yn ystod yr wythnos.

Bydd nifer o ysgolion yr ardal hefyd yn perfformio ar Lwyfan-ni – sef Llwyfan Perfformio Pentre’ Ceredigion ar y maes. Bydd amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion yn digwydd am 10am bob bore yn y Pentre’.  

‘Bwrlwm a brwdfrydedd’

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae bwrlwm a brwdfrydedd disgyblion ysgolion Ceredigion ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn heintus. Dyma gyfle amhrisiadwy iddynt ddysgu am draddodiadau’r Eisteddfod ac ymgolli yn niwylliant, hanes ac arloesedd yr ŵyl. Mae’n braf gweld y gwaith hwn mewn baneri lliwgar ar hyd a lled y sir, a hefyd clywed am y tasgau llafar, ysgrifenedig a rhifedd y maent wedi ymgyrmyd â nhw mewn cysylltiad â’r Eisteddfod. Llongyfarchiadau mawr i bawb ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi a dathlu eu cyfraniadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”

Gallwch ddod o hyd i amserlen lawn Pentre’ Ceredigion yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Pentre' Ceredigion 

Gallwch hefyd lawrlwytho ap yr Eisteddfod a fydd yn cynnwys yr holl fanylion, a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • Facebook: @CyngorSirCeredigion
  • Twitter: @CSCeredigion
  • Instagram: @CaruCeredigion

Cofiwch rannu eich lluniau chithau hefyd trwy ddefnyddio’r hashnod #Steddfod2022 ac #EisteddfodCeredigion.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan yr Eisteddfod: Eisteddfod

Welwn ni chi yna!

14/07/2022