Bydd disgyblion Ceredigion yn ôl yn eu hysgolion i dderbyn addysg lawn-amser ym mis Medi.

Bydd cyfle i rai grwpiau penodol o ddisgyblion ddychwelyd i’w hysgolion o gychwyn tymor yr hydref, sef 3 Medi 2020, yn dilyn diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd. Yna, bydd disgwyl i’r holl ddisgyblion eraill ddychwelyd ar drefniant llawn-amser erbyn 14 Medi 2020. Bydd y dychwelyd hwnnw yn digwydd yn raddol, gyda grwpiau blwyddyn ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol, nes i ysgolion gyrraedd eu llawn dwf erbyn 14 Medi 2020.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, ar 9 Gorffennaf 2020, i alluogi holl ysgolion Cymru i ailagor yn ddiogel ym mis Medi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru ac yn parhau i weithio’n agos ac yn effeithiol gydag ysgolion y sir i sicrhau’r holl drefniadau angenrheidiol er mwyn galluogi disgyblion i ddychwelyd yn ddiogel i’r ysgol.

Bydd y cynlluniau o ran staffio a thrafnidiaeth yn cael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf, gyda’r pwysigrwydd ar sicrhau diogelwch pawb.

Dymuna’r Cyngor ddiolch i’r holl rieni a gofalwyr am y gwaith y maent wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod heriol hwn oddi ar ddiwedd mis Mawrth eleni. Hefyd diolch i’r holl staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i alluogi ysgolion i ailagor am dair wythnos oddi ar 29 Mehefin 2020, ynghyd â darparu profiadau dysgu digidol i ddisgyblion.

Bydd ysgolion Ceredigion yn cau ar ddiwedd tymor yr haf eleni ar 17 Gorffennaf 2020, gan edrych ymlaen at groesawu’r holl ddisgyblion yn ôl ar drefniant llawn-amser ym mis Medi.

10/07/2020