Mae’r gwanwyn ar droed, ond cyn i’r planhigion a’r llystyfiant ar ymylon ein priffyrdd ddechrau tyfu, mae sbwriel yn fwy gweladwy ar hyn o bryd ac mae’n haws mynd ato i’w godi. Felly, mae ein hymgyrch Gwanwyn Glân flynyddol bellach ar waith ledled Ceredigion.

Er mwyn i’r gwaith gael ei gwblhau’n ddiogel, mae ystyriaethau iechyd a diogelwch llym. Gall y gofynion rheoli traffig i leoli un tîm glanhau yn ddiogel ar ein priffyrdd gostio mwy na £1,000 y dydd. Gyda hyn mewn golwg, mae’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf yn cael blaenoriaeth.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid. Dywedodd: “Mae hon yn sefyllfa y gellir ei hosgoi, lle mae atal y broblem rhag codi yn y lle cyntaf yn llawer gwell na cheisio ei datrys.”

“Fel rhan o Caru Ceredigion, mae gan bawb ran i’w chwarae i sicrhau bod Ceredigion yn cael ei chadw’n lân er mwynhad trigolion lleol ac ymwelwyr yn ogystal â’r amgylchedd lleol ei hun. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn fel mater o drefn oherwydd ei fod yn gwneud synnwyr a dyna sut y dylai pobl ymddwyn. Fodd bynnag, yn anffodus rydym unwaith eto mewn sefyllfa lle mae angen cael gwared ar sbwriel o ymylon ein ffyrdd. Nid yn unig y mae sbwriel ar ochr y ffordd yn ddrud i ddelio ag ef, ond mae’n hyll ac mae unrhyw waith ar y briffordd i gael gwared ag ef yn cynnwys rhyw elfen o risg.”

Bydd ymgyrch Gwanwyn Glân Caru Ceredigion yn parhau drwy gydol mis Mawrth.

Mae mwy o bobl yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau glanhau yn y gymuned ac ar draethau. Os ydych chi’n cadw ysbryd Caru Ceredigion yn fyw drwy wneud hyn, cofiwch ystyried eich iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill, gan gynnwys y canllawiau cyfredol sy’n gysylltiedig â COVID-19. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/cy/

 

09/03/2022