Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar sefydlu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron. Cymeradwyodd Cabinet y cyngor yr ymgynghoriad ar 4 Mehefin 2019.
Cynhaliodd swyddogion y cyngor ymarfer ymgysylltu rhwng 4 Chwefror a 17 Mawrth 2019. Daeth 17 o ymatebion i law yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar y cynnig i sefydlu ysgol ardal yn Nyffryn Aeron. Bydd yr ysgol newydd ar safle newydd. Caiff cynigion amgen eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hefyd. Bydd y cynigion hyn yn cynnwys rhai a awgrymwyd yn yr ymarfer ymgysylltu.
Bydd cynnal yr ymgynghoriad yn caniatáu i'r cyngor gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y Llywodraeth yn talu arian cyfatebol am gost adeiladu'r ysgol.
Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Gall pawb yn Nyffryn Aeron a thu hwnt gael dweud eu barn am y cynnig hwn. Os oes gennych rywbeth i'w ddweud neu awgrym i'w wneud, gallwch wneud hynny drwy'r ymgynghoriad.”
“Rydym wedi ymrwymo i gynnal safonau addysg uchel yn y sir. Mae'r rhaglen foderneiddio yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion Ceredigion yn cael y cyfleoedd gorau posib yn yr ysgol.”
Mae penderfyniad y Cabinet yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y cyngor, sef buddsoddi yn nyfodol pobl.
04/06/2019