Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar yr opsiynau datblygu yn Theatr Felinfach yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnig dau opsiwn ar ddatblygu’r Theatr.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys opsiwn i wella’r adeilad cyfredol a’i adnoddau; ac opsiwn arall sef adleoliad posib gyda Theatr newydd i gael ei leoli ar safle arfaethedig ar gyfer ysgol ardal yn Nyffryn Aeron. Bydd yr opsiwn i adleoli’r Theatr ond yn cael ei wneud os yw penderfyniad ar wahân yn cael ei gymeradwyo i sefydlu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Dywedodd yr aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae Theatr Felinfach wedi bod wrth ganol theatr a diwylliant yng Ngheredigion am gryn dipyn o amser. Rydym eisiau gwarchod a gwella’i gwaith trwy ddatblygu’r Theatr ymhellach. I wneud hyn, mae angen i ni glywed o’n cymunedau ar ba opsiwn a ffefrir.”

Prif nod y gwaith hwn yw gwella adnoddau’r Theatr a’i photensial fel pwerdy i rymuso’r economi ddiwylliannol.

Bydd yr ymgynghoriad yn canfod yr opsiwn a ffefrir i ddatblygu’r Theatr, a bydd yn dechrau ar 4 Chwefror 2019.

Mae penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo ymgynghoriad yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y cyngor o Fuddsoddi yn Nyfodol y Bobl.

24/01/2019