Mae awdurdodau yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn ceisio sylwadau mewn perthynas â'u strategaeth newydd ynghylch mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae pobl sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth, teuluoedd a ffrindiau, unigolion neu sefydliadau sy'n gweithio gyda goroeswyr neu'r rhai sy'n cam-drin, neu unrhyw un sydd â barn yn gyffredinol, yn cael eu hannog i ddweud eu dweud wrth i waith datblygu'r strategaeth gyrraedd y cam olaf.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, “Mae sicrhau ein bod ni’n cael y strategaeth ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gywir yn un o flaenoriaethau allweddol rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru. Rydym yn annog unrhyw un yng Ngheredigion a thu hwnt sydd â phrofiad neu farn i ddweud eu dweud.”

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sector cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i wella'r canlyniadau ar gyfer unigolion a'u teuluoedd y mae camdriniaeth yn effeithio arnynt.

Dywedodd Sue Darnbrook, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Pencampwraig Trais yn y Cartref, Cyngor Sir Ceredigion, “Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ofyniad statudol i baratoi, cyhoeddi a gweithredu Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Fel Cyngor, rydym yn ymgysylltu'n llawn â'n partneriaid canolbarth a gorllewin Cymru wrth ddatblygu strategaeth ranbarthol sydd ar gael ar hyn o bryd mewn fformat drafft ar gyfer ymgynghori. Cydnabyddir pwysigrwydd y gwasanaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn modd cyson a chydlynol i wella'r canlyniadau ar gyfer unigolion a'u teuluoedd sy'n destun trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Bydd y strategaeth hon a'r Cynllun Cyflawni yn nodi’r camau a fydd yn galluogi'r rhanbarth i wneud y gwelliannau angenrheidiol i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr.”

Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y rhanbarth wedi drafftio eu strategaeth ar y cyd gyntaf i amlinellu sut y byddant yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, mynd i'r afael â'r rhai sy'n cam-drin, sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol y dulliau a'r wybodaeth i weithredu a chynyddu ymwybyddiaeth o'r materion.

Mae’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Alun Williams, yn mynd ymlaen i esbonio ymhellach, “Mae'r strategaeth hefyd yn ceisio helpu plant a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn perthynas a gwybod bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir.”

Mae'r strategaeth ddrafft wedi'i chyhoeddi at ddibenion ymgynghori ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, www.sirgar.llyw.cymru. Gall pobl rannu eu barn ynghylch y strategaeth a'r gwahaniaeth y gallai ei gwneud tan 28 Mehefin.

04/05/2018