Cafodd rhai o siopwyr a busnesau tref Aberteifi syndod ar brynhawn Gwener, 18 Ionawr wrth weld criw niferus a swnllyd yn tywys Y Fari Lwyd ar hyd y Stryd Fawr dan ganu er mwyn dathlu’r Flwyddyn Newydd mewn digwyddiad a drefnwyd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Mae’r Fari Lwyd yn arferiad Cymreig sydd yn digwydd fel arfer o gwmpas y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a’r Hên Galan ble fydd penglog ceffyl wedi ei addurno gyda rhubanau a chlychau yn cael ei dywys o ddrws i ddrws mewn gwledd o gerddoriaeth a thynnu coes. Erbyn canol yr 20fed Ganrif roedd yr arferiad bron a diflannu’n llwyr ond dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ardaloedd wedi penderfynu mynd ati i’w ailgyflwyno.

Fe gychwynnodd y daith yng Nghastell Aberteifi am hanner dydd cyn mynd ar hyd y Stryd Fawr i siop Awen Teifi a Neuadd y Dref cyn gorffen yng nghaffi Crwst. Ar hyd y daith roedd disgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi yn barod i ymateb i’r Fari mewn cân. Roedd Criw’r Fari yn cynnwys rhai o gerddorion adnabyddus yr ardal fel Wyn Jones, Gwyn Morris, Delyth Wyn a Jonathan Rees a deg o ddysgwyr Cymraeg i Oedolion brwdfrydig a gydlynwyd gan Philippa Gibson. Fe baratowyd sgript y daith gan Carol Byrne Jones.

Mae’n fwriad gan Cered a’r rheiny a gymerodd rhan i gynnal digwyddiad tebyg blwyddyn nesaf er mwyn adeiladu ar lwyddiant yr arbrawf yma gan obeithio bydd y tywydd yn fwy ffafriol. Os fyddai diddordeb gan unrhywun ymuno yn yr hwyl a sbri yna cysylltwch â Cered ar: cered@ceredigion.gov.uk neu 01545 572 350.

28/01/2019