1. Preswyliwr
  2. Newyddion

Y diweddaraf ar Storm Eunice a Storm Franklin

Gwybodaeth am yr effaith ar wasanaethau a'r rhybuddion tywydd yng Ngheredigion

Dydd Mawrth 22.02.2022 13:20 - Diweddariad ar Gau Ffyrdd

Mae effeithiau parhaus y tywydd diweddar yn parhau ledled Ceredigion.

Oherwydd y risg sy'n dal i fodoli i'r cyhoedd, mae rhannau o Glan-y-Môr (o’r gyffordd â Ffordd y Môr tuag at Graig Glais) a Rhodfa Fuddug gyfan yn Aberystwyth yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd. Mae’r holl strydoedd eraill a gafodd eu cau yn Aberystwyth bellach yn cael eu hail-agor. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai llwybrau troed yn parhau i fod ar gau yn y dref wrth i archwiliadau barhau ac wrth i waith atgyfeirio ddechrau. Atgoffir perchnogion eiddo o'u rhwymedigaethau a'u cyfrifoldeb i archwilio a diogelu eu heiddo.

Mae coed sydd wedi cwympo a malurion eraill yn parhau i gael eu symud oddi ar y rhwydwaith priffyrdd ledled Ceredigion. Felly, dylai'r cyhoedd barhau i fod yn ofalus iawn wrth fynd ar hyd y lle.

Diolchwn i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau eu diogelwch yn dilyn y tywydd garw diweddar.

Dydd Llun 21.02.2022 11:00 - Diweddariad ar Gau Ffyrdd

Mae effeithiau parhaus y digwyddiadau tywydd diweddar yn parhau ledled Ceredigion. Oherwydd y risg sy'n dal i fodoli i'r cyhoedd, mae rhan o Heol y Wig, Glan y Môr, Morfa Mawr, Ffordd Lovedon a Rhodfa Buddug yn parhau ar gau. O ganlyniad, ni fydd mynediad at strydoedd yn yr ardaloedd hynny, sy'n cynnwys Stryd Portland, Y Porth Bach, Ffordd-y-Môr a Stryd y Baddon, ymhlith eraill.

Bydd cerbydau dal yn gallu gadael yr ardal hon. Fodd bynnag, oherwydd y risg o falurion yn disgyn, dylai'r cyhoedd fod yn hynod ofalus a dim ond mynd i'r ardal os yw hynny'n hanfodol.

Mae'r archwiliadau o eiddo sydd wedi'u difrodi yn parhau a bydd y ffyrdd yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Mae'r gwyntoedd cryf parhaus yn effeithio ar ein hymdrechion adfer.

Rydym yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau diogelwch y cyhoedd yn dilyn y tywydd gwael diweddar.

Dydd Llun 21.02.2022 9:00

Oherwydd y tywydd garw dros y penwythnos sy'n golygu ein bod wedi gorfod cau ffyrdd yn Aberystwyth, bydd Canolfan Alun R. Edwards a'r Ganolfan Groeso sy'n cynnwys Amgueddfa Ceredigion ar gau heddiw, 21.02.2022.

Diolchwn i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth.

Dydd Sul 20.02.2022 11:30 - Rhybudd Melyn am Wynt

Mae rhybudd melyn am wynt wedi'i gyhoeddi ar gyfer Ceredigion gyfan.

Mae'n weithredol o 12:00 ddydd Sul 20.02.2022 hyd at 13:00 dydd Llun 21.02.2022.

Gofynnir i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus gan y gallai’r gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd, ynghyd â chymryd gofal mewn perthynas â'r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill.

Dydd Sadwrn 19.02.2022 14:45 - Cau ffyrdd

Yn dilyn archwiliad pellach o eiddo sydd wedi dioddef difrod yn Aberystwyth a'r risg barhaus y bydd malurion yn disgyn o’r adeiladau hynny ynghyd â rhagolygon o wyntoedd cryfion dros nos ac i fewn i ddydd Sul, bydd y ffyrdd sydd ar hyn o bryd gau yng nghanol Aberystwyth yn parhau mewn grym tan o leiaf ddydd Llun 21/02/22.

Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau diogelwch y cyhoedd yn dilyn y tywydd garw diweddar.

Dydd Gwener 18.02.2022 18:50 Diogelwch y Cyhoedd

Mae effeithiau difrifol Storm Eunice ar Geredigion yn parhau.

Er mwyn diogelwch ei hunain, ag eraill, anogir y cyhoedd yn gryf i aros gartref gan fod risgiau a pheryglon posib yn bob ardal o’r Sir.

Ni ddylai'r cyhoedd roi eu hunain mewn perygl drwy ymweld â lleoliadau er mwyn gweld y difrod a achoswyd sydd yn cynnwys mewn mannau arfordirol gan gynnwys promenadau. Oherwydd adroddiadau a dderbyniwyd fe fu rhaid heno i ymestyn nifer y ffyrdd sydd ar gau yn Aberystwyth. Mae hyn bellach yn cynnwys Rhodfa Buddug.

Dydd Gwener 18.02.2022 17:46 - Eiddo yng nghanol tref Aberystwyth

Mae eiddo yng nghanol tref Aberystwyth heddiw (18/02/2022) wedi'u difrodi gan Storm Eunice. Oherwydd y risg y mae hyn yn ei achosi i ddiogelwch y cyhoedd, a'r gwyntoedd cryfion parhaus, mae rhan o Heol y Wîg, Glan y Môr, Morfa Mawr a Ffordd Loveden wedi'u cau. O ganlyniad, ni fydd mynediad i strydoedd yn yr ardal honno a fydd yn cynnwys Stryd Portland, Y Porth Bach, Ffordd-y-Môr a Stryd y Baddon, ymhlith eraill.

Bydd cerbydau'n dal i allu gadael yr ardal hon. Fodd bynnag, oherwydd y risg o maluron yn cwympo, dylai'r cyhoedd fod yn ofalus iawn a dim ond mynd i’r ardal os yw'n hanfodol gwneud hynny.

Mae archwiliadau o eiddo sydd wedi'u difrodi yn parhau a bydd ffyrdd yn cael eu hailagor cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny'n ddiogel.

Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau diogelwch y cyhoedd yn dilyn y tywydd garw diweddar.

Dydd Gwener 18.02.2022 16:00 - Amodau heriol dros y penwythnos wrth i rybuddion tywydd barhau yng Ngheredigion

Tra bo Storm Eunice yn parhau i wneud ei ffordd trwy’r sir, ac er bod rhai rhybuddion tywydd bellach wedi dod i ben, cynghorir trigolion i fod yn ofalus wrth deithio trwy gydol y penwythnos hwn gan y gallai’r tywydd heriol barhau i achosi problemau.

Mae yna nifer o goed wedi cwympo a malurion yn effeithio ar deithio. Gwnewch gynlluniau ymlaen llaw ac ystyriwch a yw eich taith yn hanfodol ai peidio.

Mae Rhybudd Ambr Effaith Uchel am Wyntoedd Cryfion yn parhau i fod mewn grym hyd at 21:00 heno ledled Cymru gyfan, ynghyd â chyfnod o dywydd gaeafol, a disgwylir rhagor o rybuddion tywydd melyn dros y penwythnos. Cynghorir y cyhoedd i gadw golwg ar wefan y Swyddfa Dywydd am wybodaeth am unrhyw rybuddion pellach.

Bydd ffyrdd Ceredigion yn cael eu graeanu heno oherwydd perygl o rew ac eira, yn ogystal â dros y penwythnos yn ôl yr angen.

Bydd rhybuddion i fod yn barod am lifogydd yn parhau mewn grym ar gyfer nifer o leoliadau arfordirol a chynghorir y cyhoedd i wirio pa rybuddion llifogydd sydd dal mewn grym yma: Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Os byddwch yn colli cysylltiad trydan neu’n gweld unrhyw beth peryglus a allai effeithio ar y rhwydwaith drydan, cysylltwch â Western Power Distribution ar 105 neu 0800 6783 105, neu Scottish Power ar 105 hefyd.

Bydd pob diweddariad pellach ar gyfer Ceredigion yn cael eu cyhoeddi yma: Y diweddaraf ar Storm Eunice

Mewn argyfwng, gallwch ffonio’r canlynol (tu allan i oriau yn unig):
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol:
Gogledd: 01970 625277
De: 01239 851604

Dydd Gwener 18.02.2022 15:25 - Nid oes Rhybuddion Llifogydd mewn grym bellach yn yr ardal canlynol:

  • Afon Leri, Borth

Dydd Gwener 18.02.2022 15:10 - Diweddariad Safleoedd Gwastraff Cartref

Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion yn parhau ar gau tan o leiaf ddydd Llun, 21/02/2022, pan fydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu.

Dydd Gwener 18.02.2022 15:02 - Diweddariad Gwasanaethau Bws

Bydd amhariadau difrifol yn parhau i wasanaethau bws ledled y rhwydwaith yng Ngheredigion ar gyfer gweddill dydd Gwener, 18/02/2022.

Mae gweithredwyr yn gobeithio y bydd y gwasanaethau yn gallu cael eu cynnal yn ddiogel ddydd Sadwrn, 19/02/2022, a hynny’n agos iawn at y drefn arferol.

Mae’r sefyllfa yn parhau’n ansefydlog ac felly mae hyn yn ddibynnol ar unrhyw newidiadau ac amhariadau pellach.

Dydd Gwener 18.02.2022 13:08 - Cau Ffyrdd yn Aberystwyth

Mae nifer o ffyrdd ar gau heddiw i sicrhau diogelwch y cyhoedd rhag llechi a malurion a allai gael eu chwythu i ffwrdd.

  • Mae hyn yn cynnwys nifer o strydoedd o ganol tref Aberystwyth i'r prom.

Dydd Gwener 18.02.2022 12:46 - Coed wedi cwympo

Rydym yn ymwybodol o nifer o goed sydd wedi cwympo ledled y sir sy'n effeithio ar y rhwydwaith briffyrdd.
Mae'r Cyngor yn delio â'r ceisiadau wrth iddynt ddod i mewn a phan fo hynny'n ddiogel.
Gallwch adrodd am goed sydd wedi cwympo trwy gysylltu â'n Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid trwy ffonio 01545 570 881.

Dydd Gwener 18.02.2022 11:48 - Nid oes Rhybuddion Llifogydd mewn grym bellach yn yr ardaloedd canlynol:

  • Ardal y Llanw, Aberteifi
  • Ardal y Llanw, Aberaeron
  • Ardal y Llanw ym Mhentref Gwyliau Aberystwyth
  • Ardal y Llanw, Trefechan, Aberystwyth
  • Ardal y Llanw ar lan y môr Aberystwyth
  • Ardal y Llanw: Bae Clarach
  • Y Borth

Mae'r sefyllfa yn gwella ac ni ddisgwylir rhagor o lifogydd yn yr ardaloedd hyn. 

Gwiriwch pa rybuddion sy'n parhau mewn grym yma: Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dydd Gwener 18.02.2022 11:07 - Diweddariad ar Gasgliadau Gwastraff

Yn anffodus, oherwydd yr effeithiau a ragwelir yn sgil Storm Eunice a’r risgiau posibl i’n staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, nid oedd yn bosibl casglu gwastraff domestig fel y trefnwyd yng Ngheredigion ddydd Gwener 18 Chwefror 2022. Mewn ymateb i hyn:

  • Dylid cyflwyno gwastraff bwyd a gwastraff ailgylchu sydd i'w gasglu ddydd Gwener 18 Chwefror i'w gasglu ddydd Gwener 25 Chwefror.
  • Rydym yn adolygu opsiynau ar gyfer casgliadau gweddilliol (bag du) a chasgliadau gwydr na ddarparwyd ddydd Gwener 18 Chwefror. Byddwn yn ceisio darparu'r rhain cyn gynted â phosib yn ystod yr wythnos yn dechrau 21 Chwefror.

Bydd ein gallu i wneud hyn yn cael ei ddylanwadu gan adnoddau sydd ar gael ac effaith digwyddiad y tywydd sy’n mynd ymlaen.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi maes o law drwy Aflonyddwch i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff - Cyngor Sir Ceredigion neu drwy gysylltu â Chlic ar 01545 570881.

Oherwydd maint a chwmpas y gwasanaeth casglu gwastraff mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar ein gallu i ddarparu'r gwasanaeth y byddem ei eisiau ac y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

Ymddiheurwn yn ddiffuant pan amherir ar wasanaethau ac am unrhyw anghyfleustra a achosir. Gwerthfawrogwn yn fawr gefnogaeth a dealltwriaeth y cyhoedd.

 

Dydd Gwener 18.02.2022 9.10 - Gwybodaeth am Ddiffyg Trydan, Western Power

Os ydych yn colli trydan neu'n sylwi ar unrhyw beth peryglus a allai effeithio ar y rhwydwaith drydan, cysylltwch â Western Power Distribution ar 105 neu 0800 6783 105 - Western Power

 

Dydd Iau 17.02.2022 17:20 - Safleoedd Gwastraff ar Gau

Bydd holl Safleoedd Gwastraff ar gau ar ddydd Gwener 18 Chwefror. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881.

 

Dydd Iau 17.02.2022 17:00 - Rhagor o rybuddion llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer:

  • Ardal y Llanw yn Aberaeron
  • Ardal y Llanw yn Nhrefechan, Aberystwyth
  • Ardal y Llanw ym Mhentref Gwyliau Aberystwyth 

 

Dydd Iau 17.02.2022 16:50 - Atal gwasanaethau bws lleol

Bydd tarfu sylweddol ar wasanaethau bws ledled Ceredigion ddydd Gwener, 18 Chwefror gyda llawer ddim yn gweithredu tan hanner dydd, yn amodol ar adolygiad. Bydd gwasanaethau'n ailddechrau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

 

Dydd Iau 17.02.2022 16:24 - Rhagor o rybuddion llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer:

  • Ardal y Llanw ar lan y môr Aberystwyth: eiddo ar hyd Teras Fictoria, Teras y Môr a South Marine Terrace. Yn benodol, y ffordd ar hyd ffryntiad y môr a seleri eiddo sy'n ffinio â'r ffordd.   
  • Ardal y Llanw yn Aberteifi: Eiddo gerllaw'r afon rhwng Pont Aberteifi a phont ffordd yr A487, gan gynnwys The Strand, Heol St Mary, Rhes Gloster, Pwllhai. Hefyd maes parcio'r archfarchnad ac eiddo cyfagos.   
  • Bae Clarach: Parc Carafanau Glangors, y ffordd fynediad i Barc Carafanau Glan y Môr a'r caffi ym Mharc Carafannau Bae Clarach

 

Dydd Iau 17.02.2022 15:27 - Sachau Tywod

Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am sachau tywod a sut y rhoddir blaenoriaeth i'w dosbarthu: Sachau Tywod

 

Dydd Iau 17.02.2022 15:15 - Rhybuddion Llifogydd yn y Borth

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau rhybuddion llifogydd ar gyfer yr ardaloedd canlynol:

  • Borth: Yr ardal o Ynyslas i Brynowen, gan gynnwys tir isel ac eiddo rhwng amddiffynfeydd y môr ac Afon Leri. 

  • Afon Leri, Borth: Risg i eiddo o Afon Leri yn y Borth, gan gynnwys Parc Carafannau Glanleri a'r Animalarium.   

Bydd y llanw uchel am 09:15 AM ddydd Gwener 18 Chwefror 2022. Disgwylir i lefel y llanw gyrraedd 3.59 metr uwchben yr Ordnance Datum. Disgwylir i donnau dorri dros y lan ar lan y môr rhwng 08:00 AM a 10:45 AM. Yr eiddo sydd agosaf at lan y môr sydd mewn mwyaf o berygl. 

Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: Met Office a chadwch olwg ar wefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.

Mae yna gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dydd Iau 17.02.2022 15:09

Atal gwasanaethau’r Cyngor yng Ngheredigion ddydd Gwener yn dilyn Rhybudd Tywydd Ambr

Yn sgil y Rhybudd Tywydd Ambr gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Storm Eunice ddydd Gwener, ac yn dilyn trafodaethau â Fforwm amlasiantaeth Cydnerthedd Lleol Dyfed Powys (LRF), mae penderfyniad wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion i gau’r gwasanaethau canlynol yng Ngheredigion er mwyn diogelu trigolion a staff y Cyngor, a chyfyngu ar deithiau diangen (ac eithrio staff a fydd yn delio â'r argyfwng):

  • Canolfannau hamdden a phyllau nofio y Cyngor. Bydd y Canolfannau Hamdden yn cael eu defnyddio fel canolfannau gorffwys os bydd angen.
  • Amgueddfa Ceredigion a Theatr Felinfach.
  • Llyfrgelloedd Cyngor.
  • Gwasanaethau Casglu Gwastraff. Gofynnir i drigolion ailgyflwyno eu gwastraff ar y diwrnod casglu nesaf a drefnwyd.
  • Safeloedd Gwastraff Cartref.

Bydd holl ysgolion Ceredigion yn darparu dysgu o bell; bydd pob adeilad ysgol ynghau.

Bydd strydoedd arfordirol, gan gynnwys prom Aberystwyth a Pen Cei Aberaeron ar gau yn ystod y cyfnod.

Bydd y Gwasanaethau Gofal yn parhau. Fodd bynnag, efallai y bydd yna broblemau yn wynebu staff gofal cartref a fydd yn teithio i ymweld â defnyddwyr gwasanaeth.

Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: Met Office a chadwch olwg ar wefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.

Mae yna gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i Geredigion yn cael eu cyhoeddi yma: Storm Eunice, Ceredigion 

 

Dydd Iau 17.02.2022 12:07 - Canolfannau Brechu Torfol

Bydd Canolfannau Brechu Torfol ar gau yfory, dydd Gwener 18 Chwefror.

 

Dydd Iau 17.02.2022 11:14 - Rhybudd mewn grym o 5am

Mae yna oedi o 2 awr ar gyfer amser dechrau'r rhybudd; nawr o 05:00.

Dydd Iau 17.02.2022 10:45 - Rhybudd Ambr am Dywydd Gwael

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan Rhybudd Gwynt Ambr a fydd mewn grym rhwng 03:00 tan 21:00 ar ddydd Gwener 18 Chwefror 2022 .

Ar hyn o bryd mae Storm Eunice yn dangos potensial i fod yn un o'r stormydd mwyaf pwerus i effeithio ar Geredigion am nifer o flynyddoedd a byddwn yn parhau i gadw llygad ar ei lwybr dros y 48 awr nesaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhag-weld gwyntoedd a allai fod mor gryf â 90-100mya ar hyd rhai rhannau o arfordir Cymru.

Atgoffir pobl i fod yn ofalus wrth deithio oherwydd gall y gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd, a dylai pobl gadw draw o ardaloedd arfordirol agored gan y bydd hyrddiadau’r gwynt yn gryf iawn. Mae lefel y tonnau wedi codi ar hyn o bryd ac mae tonnau mawr yn debygol. Mae deunydd traeth hefyd yn debygol o gael eu taflu i lannau’r môr, ffyrdd arfordirol ac eiddo.

Dywedodd Ross Akers, Rheolwr Dyletswydd Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): “Os ydych yn byw ger ardal arfordirol, neu’n ymweld ag ardal o’r fath, cymerwch gamau gofalus ychwanegol a chadwch bellter oddi wrth lwybrau arfordirol a phromenâdau oherwydd gallai tonnau mawr eich sgubo oddi ar eich traed a gallech gael eich taro gan falurion.”

Gofynnir hefyd i’r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.

Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor.

Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: https://www.metoffice.gov.uk/ a chadwch olwg ar wefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf: https://naturalresources.wales/flooding/?lang=cy

Dylai trigolion wneud eu trefniadau eu hunain i ddiogelu/amddiffyn eu heiddo cyn y rhagolygon am dywydd gwael gan y bydd gallu’r Cyngor i ymateb i unrhyw geisiadau am gymorth yn ystod y digwyddiad yn cael ei flaenoriaethu i ymateb i ddigwyddiadau lle mae yna berygl i fywyd a seilwaith gritigol.

Mae yna gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan CNC: https://naturalresources.wales/flooding/preparing-for-a-flood/?lang=cy

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i Geredigion yn cael eu cyhoeddi yma: www.ceredigion.gov.uk/StormEunice/Cymraeg

17/02/2022